Byrfoddau ar gyfer labelu gwerthoedd data
Mae rhai tablau ar StatsCymru yn defnyddio symbolau, a elwir hefyd yn fyrfoddau, i roi manylion ychwanegol am werthoedd data penodol. Dyma'r rhain:
| Byrfodd | Ystyr | Defnydd |
|---|---|---|
| a | Cyfartaledd | Mae'r gwerth data yn gyfartaledd o werthoedd eraill |
| b | Toriad yn y gyfres amser | Mae toriad yn y gyfres data sy'n golygu na ellir cymharu data cyn y toriad yn uniongyrchol â data ar ôl y toriad |
| c | Gwybodaeth gyfrinachol | Mae'r gwerth data wedi'i atal am resymau cyfrinachedd |
| e | Amcangyfrifedig | Mae'r gwerth data yn amcangyfrif |
| f | Rhagolwg | Mae'r gwerth data yn werth a gyfrifwyd ar gyfer y dyfodol yn hytrach na gwerth a arsylwyd |
| k | Ffigur isel | Mae'r gwerth data yn ffigur isel sy'n ymddangos fel sero pan gaiff ei grynhoi |
| ns | Ddim yn ystadegol arwyddocaol | Nid yw'n bosibl pennu a yw'r gwerth data yn ddibynadwy ai peidio |
| p | Dros dro | Nid yw'r gwerth data wedi'i derfynu eto, neu disgwylir iddo gael ei ddiwygio |
| r | Wedi'i ddiwygio | Mae'r gwerth data wedi'i ddiwygio ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf |
| s | Ystadegol arwyddocaol ar lefel 0.05 neu 5% | Mae llai na 5% siawns bod y gwerth data yn annibynadwy |
| ss | Ystadegol arwyddocaol ar lefel 0.01 neu 1% | Mae llai na 1% siawns bod y gwerth data yn annibynadwy |
| sss | Ystadegol arwyddocaol ar lefel 0.001 neu 0.1% | Mae llai na 0.1% siawns bod y gwerth data yn annibynadwy |
| t | Cyfanswm | Mae'r gwerth data yn gyfanswm o werthoedd eraill |
| u | Dibynadwyedd isel | Mae'r gwerth data o ansawdd ystadegol isel |
| w | Dim wedi'i gofnodi yn yr arolwg | Nid oes gwerth data wedi'i amcangyfrif ar gyfer y cyfuniad hwn o newidynnau |
| x | Ddim ar gael | Nid yw'r gwerth data ar gael am resymau anhysbys neu eraill |
| z | Ddim yn berthnasol | Nid oes gwerth data posibl ar gyfer y cyfuniad hwn o newidynnau |