Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi a grŵp ethnig

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Blwyddyn
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp ethnig
7 o 7 wedi'u dewis
Oedran y babi
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws bwydo ar y fron
5 o 5 wedi'u dewis
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
BlwyddynWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 7 gwerthNewid gwerthoedd
Grŵp ethnigWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 7 gwerthNewid gwerthoedd
Oedran y babiWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd
Statws bwydo ar y fronWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataBlwyddynGrŵp ethnigOedran y babiStatws bwydo ar y fron
20,049Nifer2024Pob grwp ethnigBwriadCyfanswm
12,622Nifer2024Pob grwp ethnigBwriadBwydo ar y fron
6,945Nifer2024Pob grwp ethnigBwriadDdim yn bwydo ar y fron
482Nifer2024Pob grwp ethnigBwriadHeb ei nodi
19,567Nifer2024Pob grwp ethnigBwriadCofnodion â data dilys
26,944Nifer2024Pob grwp ethnigGeniCyfanswm
15,923Nifer2024Pob grwp ethnigGeniBwydo ar y fron
8,942Nifer2024Pob grwp ethnigGeniDdim yn bwydo ar y fron
2,079Nifer2024Pob grwp ethnigGeniHeb ei nodi
24,865Nifer2024Pob grwp ethnigGeniCofnodion â data dilys
26,819Nifer2024Pob grwp ethnig10 diwrnod oedCyfanswm
13,503Nifer2024Pob grwp ethnig10 diwrnod oedBwydo ar y fron
10,067Nifer2024Pob grwp ethnig10 diwrnod oedDdim yn bwydo ar y fron
3,249Nifer2024Pob grwp ethnig10 diwrnod oedHeb ei nodi
23,570Nifer2024Pob grwp ethnig10 diwrnod oedCofnodion â data dilys
27,067Nifer2024Pob grwp ethnig6 wythnos oedCyfanswm
9,195Nifer2024Pob grwp ethnig6 wythnos oedBwydo ar y fron
11,893Nifer2024Pob grwp ethnig6 wythnos oedDdim yn bwydo ar y fron
5,742Nifer2024Pob grwp ethnig6 wythnos oedHeb ei nodi
21,325Nifer2024Pob grwp ethnig6 wythnos oedCofnodion â data dilys
27,475Nifer2024Pob grwp ethnig6 mis oedCyfanswm
6,975Nifer2024Pob grwp ethnig6 mis oedBwydo ar y fron
14,508Nifer2024Pob grwp ethnig6 mis oedDdim yn bwydo ar y fron
5,992Nifer2024Pob grwp ethnig6 mis oedHeb ei nodi
21,483Nifer2024Pob grwp ethnig6 mis oedCofnodion â data dilys
Yn dangos 1 i 25 o 2,450 rhes
Page 1 of 98

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data 1
Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MIDS)
Darparwr data 2
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data 2
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2018 i Rhagfyr 2024

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nifer a chanran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi wedi’u dadansoddi yn ôl y grŵp ethnig.

Mae’r ystadegau hyn yn deillio o ddwy ffynhonnell ddata, sef y set ddata Dangosyddion Mamolaeth lle cofnodir bwriad y fam i fwydo ar y fron cyn genedigaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol lle cofnodir data o ran bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac ar gyfer babanod sy’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed ac maent yn cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron.

Darperir y ddwy ffynhonnell ddata hon i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae'r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol y fam â chofnod genedigaeth y plentyn. Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn caniatáu inni ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni, y mae ‘bwriad i fwydo ar y fron’ yn un ohonynt.

Sefydlwyd NCCHD yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer pob plentyn a gafodd ei eni, a fu’n preswylio neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ac a gafodd ei eni ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o adeg ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Mae’r geiriadur data hefyd yn diffinio sut y mae grwpiau ethnig yn cael eu dosbarthu, fel a ganlyn:

  • Gwyn (unrhyw gefndir Gwyn)
  • Asiaidd (Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, ac unrhyw gefndir Asiaidd arall)
  • Cymysg/amlethnig (Gwyn ac Asiaidd, Gwyn a Du Affricanaidd, Gwyn a Du Caribïaidd, ac unrhyw gefndir cymysg arall)
  • Arall (unrhyw grŵp ethnig arall)
  • Du (Affricanaidd, Caribïaidd, ac unrhyw gefndir Du arall).
Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.

Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.

Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi. Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n preswylio neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru.

Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, yn 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni.

Mae’r canrannau yn adlewyrchu cyfanswm y cofnodion lle nodwyd statws bwydo ar y fron.

Mae cyfanswm nifer y cofnodion ar gyfer cyfrifiadau canran ym mhob pwynt fel a ganlyn:

  • nifer y menywod a fydd yn rhoi genedigaeth ar gyfer ‘Bwriad i fwydo ar y fron’
  • pob genedigaeth fyw ar gyfer ‘genedigaeth’
  • y babanod sy’n cyrraedd yr oedran cyfeirio ar gyfer pob pwynt oedran arall.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau. Fodd bynnag, dim ond at enedigaethau byw y mae’r dadansoddiad hwn yn cyfeirio.

Ansawdd ystadegol

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd wneud newidiadau i ddata ar gyfer unrhyw gyfnod.

Ar gyfer yr ystadegau yn y datganiad hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt penodol mewn amser, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Mae data bwydo ar y fron ar bob pwynt mewn amser yn destun materion o ran ansawdd y data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn.

Cesglir data bwydo ar y fron yn 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed pan fydd gan y plant apwyntiadau ag ymwelydd iechyd a meddyg teulu drwy Raglen Plant Iach Cymru. Os na fydd plentyn yn cael cyswllt o’r fath, mae’n bosibl y bydd data’r plentyn o ran bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw.

Mae’r gyfradd gyflawnrwydd yn gostwng gydag oedran y babi ac yn 2024, roedd fel a ganlyn:

  • 98% ar gyfer bwriad i fwydo ar y fron
  • 92% ar adeg genedigaeth
  • 88% yn 10 diwrnod
  • 79% yn chwe wythnos
  • 78% yn 6 mis.

Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd.

Nid yw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi darparu data wedi’u cofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r dadansoddiad ynghylch bwriad i fwydo ar y fron. Mae pob bwrdd iechyd wedi’i gynnwys ar gyfer y pwyntiau oedran eraill.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru