Tabl cyflenwad: crynodeb o gyflenwad cynnyrch
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 23ain Gorffennaf 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2022 i Rhagfyr 2022
- ID y set ddata
- fcd783a0-aedc-45d4-b9c4-06bcf35f5747
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Beth yw’r tabl cyflenwad
Mae’r set ddata hon yn cynnwys tabl cyflenwad cryno sy’n dangos gwerth y cynnyrch a gyflenwir i economi Cymru.
Mae’n nodi faint o bob cynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu’n ddomestig, faint sy’n cael ei fewnforio, a’r addasiadau sydd eu hangen i fynegi cyfanswm y cyflenwad ym mhrisiau’r prynwyr.
At beth defnyddir y tabl
Defnyddir y tabl cyflenwad ochr yn ochr â’r tabl defnydd i ddisgrifio’r berthynas rhwng cyflenwad a defnydd yn yr economi, lle mae cyfanswm cyflenwad pob cynnyrch a nodwyd yn hafal i gyfanswm y defnydd.
Gyda’i gilydd, mae’r tablau cyflenwad a defnydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer llunio’r tablau mewnbwn-allbwn ac ar gyfer dadansoddiadau economaidd ehangach.
Sut mae’r tabl wedi’i strwythuro
Dangosir cyflenwad y cynnyrch yn rhesi’r tabl.
Mae’r colofnau’n crynhoi ffynonellau daearyddol y cyflenwad a’r addasiadau prisio ar gyfer pob cynnyrch. Mae cyfanswm y colofnau hyn yn hafal i'r cyflenwad ym mhrisiau’r prynwyr.
Mynegir yr holl werthoedd ar sail blwyddyn galendr, ac mewn miliynau o bunnoedd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Pa ffynonellau data a ddefnyddir
Caiff tablau cyflenwad a defnydd Llywodraeth Cymru eu llunio gan ddefnyddio ystod eang o arolygon, setiau data gweinyddol a ffynonellau eraill.
Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dulliau ar gael yn yr adroddiad methodoleg ategol.
Sut mae’r tablau hyn yn cymharu â’r cyhoeddiadau blaenorol
Ni ddylid cymharu’r set ddata hon â chyhoeddiad 2019, gan fod y dulliau, ffynonellau data a’r ffordd y cyflwynir y data wedi cael eu haddasu’n sylweddol.
- Ansawdd ystadegol
Beth sydd angen i chi ei wybod am ansawdd y data
Dynodir y tablau cyflenwad, defnydd a thablau mewnbwn-allbwn yn Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Beth yw’r prif gyfyngiadau o ran ansawdd
- Mae rhai rhannau o'r tabl yn defnyddio patrymau ar lefel y DU lle nad oes data penodol i Gymru ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys strwythurau cynhyrchu ar gyfer diwydiannau nad ydynt yn perthyn i’r sector gweithgynhyrchu.
- Mae rhai amcangyfrfon yn fwy ansicr na'i gilydd, yn enwedig mewnforion, sy'n dibynnu ar dybiaethau symlach am gadwyni cyflenwi.
- Nid yw pob arolwg yn cwmpasu pob rhan o economi Cymru, felly rydym yn defnyddio dulliau dosrannu a ffynonellau data ychwanegol lle bo angen.
O ganlyniad, mae’r tablau ar eu cryfaf pan gânt eu defnyddio i ddadansoddi’r economi a sectorau yn eu cyfanrwydd yn hytrach na thrafodion unigol.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Talgrynnir pob gwerth i 4 lle degol. O ganlyniad, efallai na fydd y cyfansymiau a'r is-gyfansymiau'n adio'n union.
Anogir defnyddwyr sydd angen mwy o fanylder i lawrlwytho’r tablau data mewn fformat OpenDocument Spreadsheet (ODS) o wefan Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru