Llongau sy’n cyrraedd porthladdoedd Cymru, yn ôl y math o long
Disgwylir y diweddariad nesaf:Tachwedd 2026
Diweddariadau
- 17eg Rhagfyr 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Yr Adran Drafnidiaeth
- Ffynhonnell y data
- Ystadegau morol a llongau
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2009 i Rhagfyr 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r set ddata hon yn rhoi manylion ar gyraeddiadau llongau wrth borthladd yng Nghymru hyd at y flwyddyn 2024. Fe gyflwynir data fel nifer o dunelledd llwyth (miliynau).
- Cyfrifo neu gasglu data
Hyd 2017 y brif ffynhonnell a ddefnyddiwyd oedd data symudiadau llongau a gafwyd yn fasnachol gan Lloyds List Intelligence (LLI) sydd bellach wedi uno gyda gwybodaeth arall am symudiadau llongau a gafwyd gan yr Adran Drafnidiaeth drwy’r system a ddisgrifiwyd uchod, ar gyfer pob symudiad cludo nwyddau a theithiwyr mewn porthladdoedd mawr a’r arolwg teithwyr morol. Mae’r dair ffynhonnell data wedi eu cyfuno ar lefel y llongau unigol sy’n galw ym mhob porthladd. Y nifer uchaf o alwadau o unrhyw un o’r dair ffynhonnell sy’n cael eu hystyried fel yr amcangyfrif terfynol. Ers 2018 mae’r ffynonellau data a gaiff eu defnyddio ar gyfer amcangyfrif nifer y llongau sy’n cyrraedd wedi newid. Y brif ffynhonnell data a ddefnyddir bellach yw system CERS yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau, ond caiff data gan gwmnïau fferïau, porthladdoedd ac asiantiaid morgludiant a gesglir gan yr Adran Drafnidiaeth eu defnyddio hefyd. Dylai’r defnyddwyr nodi bod hyn yn golygu nad oes modd cymharu ffigurau 2018 â’r ffigurau ar gyfer blynyddoedd cynharach i’r un graddau.
- Ansawdd ystadegol
Amseroedd a phrydlondeb
Mae’r ystadegau a gyflwynwyd yn cynnwys traffig i borthladdoedd yng Nghymru
Cymharu a chydlynnu
Mae’r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu cyfres o ystadegau sy’n gysylltiedig â’r sector morol gan gyflwyno gwybodaeth am nwyddau domestig sy’n cael eu cludo ar y môr, porthladdoedd, teithwyr ar y môr, fflydau morgludo a morwyr.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r data wedi'i dalgrynnu i'r miliwn tunnell agosaf
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru