Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru, yn ôl cyfnod amser

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod amser
38 o 38 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:14 Mai 2026

Diweddariadau

12fed Chwefror 2026

Data newydd / diwygiedig

13eg Tachwedd 2025
29ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Awdurdod Cyllid Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni treth gwarediadau tirlenwi

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

O 1 Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Tirlenwi yng Nghymru gan Dreth Gwarediadau Tirlenwi a chaiff ei chasglu a’i rheoli gan yr Awdurdod, yr awdurdod treth newydd ar gyfer Cymru. Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae’n daladwy gan weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy’n trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd. Mae'r dreth yn cymell dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi i ddulliau eraill llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.

Mae pob gweithredwr safle tirlenwi yn cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gyda’r Awdurdod ar gyfer dychwelyd ffurflen Treth Gwarediadau Tir, y mae’n rhaid iddi gael ei derbyn erbyn diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu.

Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:

  • mesur: treth a dalwyd
  • cyfnod adrodd (blwyddyn a chwarter)

Nid yw’r setiau data yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r taliadau unigol, sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni.

Mae'r data yn un dros dro ar hyn o bryd a gallai gael ei ddiwygio mewn datganiadau yn y dyfodol i roi cyfrif am ddiweddariadau i ffurflenni, er enghraifft yn dilyn gwiriadau lliniaru ac adfer arferol a wneir gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Awdurdod Cyllid Cymru
E-bost cysylltu
data@acc.llyw.cymru