Rheolaeth o wastraff trefol a chyfraddau ailddefnyddio/ailgylchu/compostio blynyddol fesul awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

29ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffynhonnell y data
Waste Data Flow
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2012 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae gwastraff trefol awdurdodau lleol Cymru yn cynnwys deunydd o eiddo domestig a masnachol sy'n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol. Mae'r set ddata yma yn cynnwys gwastraff a gasglwyd, maint y gwastraff a gafodd ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, a maint net y gwastraff a losgwyd neu a anfonwyd i safle tirlenwi.

Mae'r ffigyrau gwastraff a losgwyd wedi eu gwahanu rhwng gwastraff a losgwyd gydag adfer ynni a heb.

Mae diffiniadau’r targed statudol yn cynnwys gwastraff trefol awdurdodau lleol a gynhyrchwyd a gafodd ei ailgylchu, ailddefnyddio neu compostio.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r wybodaeth ar y swm a'r math o wastraff a gesglir a sut mae'n cael ei waredu yn cael ei gasglu drwy'r system WasteDataFlow. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei gyflwyno gan awdurdodau lleol drwy WasteDataFlow. Adnoddau Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am ddilysu'r data hwn.

Ansawdd ystadegol

Efallai y bydd rhai anghysondebau rhwng rhai o’r tablau achos fod rhai yn cyfeirio at maint y gwastraff a gynhyrchwyd/casglwyd tra bod eraill yn cyfeirio at y maint a anfonwyd am driniaeth. Gall hyn fod yn fater o amseru os yw awdurdodau, er enghraifft, yn stoc-bentyrru gwastraff i'w drin yn ddiweddarach. Gall fod rhai anghysondebau hefyd o ran y mesur gan fod y gwastraff yn cael ei bwyso pan gaiff ei gasglu a'i bwyso eto pan gaiff ei anfon i'w drin. Yn ogystal, efallai hefyd y bydd colli mewn pwysau drwy wahanol brosesau trin. Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn dilysu holl ffurflenni awdurdodau lleol ac yn gofyn bod rhaid i'r gwahaniaeth rhwng y swm a gasglwyd a'r swm a anfonir i gael triniaeth i beidio gwahaniaethu mwy na 10 y cant mewn unrhyw chwarter, oni bai y gellir rhoi esboniad dilys. Nid yw gwastraff trefol awdurdodau lleol yn cynnwys cerbydau sydd wedi eu gadael.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r data wedi cael ei dalgrynnu i bump lle degol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru