Canran o'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd a sydd angen monitro clos ar eu cyflwr strwythurol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2027
Diweddariadau
- 13eg Awst 2026
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data 2025/26
- 21ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyflwr ffyrdd traffyrdd a chefnffyrdd A
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1995 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- f91da5a6-166a-4a90-b41e-6e7624a4953c
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Wedi’i gyfrif gan ddefnyddio Defflectograff. Bydd angen monitro’n glos cyflwr strwythurol rhan o ffordd pan fydd ganddi oes weddilliol negyddol. Mae’r ffigurau’n ymwneud â’r rhwydwaith hyblyg cyfan. Efallai na fydd canrannau’n cyfrif i 100 y cant oherwydd talgrynnu. Heb gynnwys pafinau concrit a cherbytffyrdd ar bileri. Cyfrifwyd ffigurau 2015-16 gan ddefnyddio meddalwedd Pandef
- Cyfrifo neu gasglu data
Arolygon Defflectograff: Fel arfer, cesglir gwybodaeth am gyflwr strwythurol priffyrdd trwy gyfrwng Arolygon Defflectograff. Techneg awtomataidd yw Defflectograff ar gyfer mesur faint mae arwyneb ffordd yn anffurfio o dan lwyth safonol. Mae meddalwedd fel DEFLEC a PANDEF wedi’u datblygu i allu mesur cyflwr strwythurol y ffordd yn ôl maint unrhyw anffurfio, gan roi data penodol am adeiladwaith y ffordd ac am effaith llwyth traffig.
- Ansawdd ystadegol
Yn y blynyddoedd diwethaf, defnyddiwyd dau brif ddull o brosesu data’r Defflectograff. Roedd LlC yn defnyddio’r dull Deflec i brosesu’r holl arolygon hyd at 2014/15. Mae dull Pandef wedi’i ddefnyddio ers hynny yn ei le. Trwy ddefnyddio’r feddalwedd hon, mae Llywodraeth Cymru bellach yn gyson â gweddill y DU, gan gynnwys Highways England a Transport Scotland.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru