Amcangyfrifon poblogaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, blwyddyn, rhyw ac oedran

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oedran
103 o 103 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

11eg Medi 2026

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ychwanegu amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn 2025 ar gyfer byrddau iechyd lleol, ynghyd â diwygiadau i'r amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer canol blynyddoedd 2022 i 2024.

8fed Ebrill 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
ID y set ddata
f7c81eb8-cf29-4d14-b964-04c155527e4d

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn darparu amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y byrddau iechyd lleol yng Nghymru, ar gyfer y cyfnod o ganol 2009 ymlaen yn ôl rhyw a blwyddyn oedran unigol.

Dylid nodi, ar gyfer canol 2020, fod rhai newidiadau diffiniadol, yn enwedig yn effeithio ar y cydrannau mudo, o'i gymharu â data amcangyfrifon poblogaeth canol 2019, a chynghorir defnyddwyr i ddarllen yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morganwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morganwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dod yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morganwg yn dod yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Ar gyfer Cymru, amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yw'r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i fod yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021.

Ar 23 Tachwedd 2023, ail-seiliwyd y set ddata o ganol 2012 i ganol 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2021.

Ar 15 Gorffennaf 2024, diwygiwyd amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ystyried amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ar 30 Gorffennaf 2025, diwygiwyd amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ystyried amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ar 29 Gorffennaf 2026, diwygiwyd amcangyfrifon ar gyfer canol 2022, canol 2023 a chanol 2024 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i adlewyrchu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer canol 2023 wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dull gwahanol i flynyddoedd blaenorol, yn dilyn newid i’r newidynnau sydd ar gael yn nata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r data'n cael eu cyfrifo ar gael ar wefan y SYG. Mae dolen i'w gweld yn yr adran dolenni gwe.

Ansawdd ystadegol

Mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd ystadegol ar gael ar wefan y SYG. Gellir dod o hyd i ddolen yn yr adran dolenni gwe.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru