Swyddi gweithwyr yn ôl diwydiant, awdurdod lleol Cymru, rhanbarth Lloegr a gwledydd Prydain
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026
Diweddariadau
- 29ain Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES)
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data hyn yn gyfrifiadau o swyddi sifilaidd cyflogeion mewn gwahanol grwpiau diwydiant, y telir amdanynt gan gyflogwyr sy'n rhedeg cynllun Talu Wrth Ennill a/neu sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. Mae adran pob diwydiant yn cynnwys adrannau SIC07 A i S. Mae’r ffigurau hyn ar gyfer awdurdodau lleol ag eithrio amaethyddiaeth fferm (is-dosbarth SIC 01000) Mae diwydiannau cynhyrchu ac adeiladu yn cynnwys adrannau SIC07 B i F. Mae’r holl ddiwydiannau ag eithrio’r adrannau amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn cynnwys adrannau SIC07 B i S. Mae pob diwydiant gwasanaeth yn cynnwys adrannau SIC07 G i S. Mae diwydiannau twristiaeth yn seiliedig ar y ddiffiniad rhyngwladol o sectorau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth a ddiffinnir ar godau 5 digid SIC07. Nid yw'r data ar gyfer 2011 yn gyson â'r blynyddoedd blaenorol oherwydd gwelliannau yn yr amcangyfrifon o berchnogion sy'n gweithio. Nid yw pobl hunangyflogedig, lluoedd Ei Mawrhydi, gweithwyr gartref a gweision preifat yn cael eu cynnwys.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cymerir y ffigurau o'r Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (BRES) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac sydd wedi'i seilio ar SIC07. Gan fod y canlyniadau'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae'r data diwydiannau unigol yn destun mwy o amrywioldeb na'r data pob diwydiant. Mae'r data eu hunain ar gael ar y System Gwybodaeth Gweithlu Ar-lein Genedlaethol (NOMIS)
- Ansawdd ystadegol
Mae Gwybodaeth Methodoleg Ansawdd (QMI) ar gyfer BRES ar gael ar wefan yr ONS.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir. Mae rhai data'n cael eu celu am resymau'n ymwneud â datgelu.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru