Lluosyddion economaidd dangosol, 2022 (tablau mewnbwn-allbwn)
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 23ain Gorffennaf 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Arolwg Amaethyddol Mis Mehefin
- Darparwr data 2
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
- Darparwr data 3
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 3
- Arolwg o'r Llafurlu (LFS)
- Darparwr data 4
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 4
- Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2022 i Rhagfyr 2022
- ID y set ddata
- f6c539e8-8fd6-4b7d-9062-39ab1fc70b10
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Beth yw lluosyddion ac effeithiau
Gellir defnyddio lluosyddion ac effeithiau i amcangyfrif effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol newid i allbwn diwydiant gan ddefnyddio ystod o fesuriadau economaidd (ac aneconomaidd).
Beth sydd yn y set ddata hon
Mae'r set ddata hon yn cynnwys lluosyddion Math 1 a Math 2 ar gyfer cynnyrch economaidd, GVA a chyflogaeth.
Mae'r ddau fath yn mesur effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol, tra bod lluosyddion Math 2 hefyd yn cymryd i ystyriaeth yr effeithiau a ysgogwyd gan newid i incwm cyflogaeth.
Beth sydd angen i chi wybod
Mae lluosyddion a’r effeithiau cysylltiedig yn dibynnu ar nifer o dybiaethau wedi’u symleiddio y dylai defnyddwyr eu deall cyn cymhwyso’r canlyniadau mewn dadansoddiadau. Anogir yn gryf i ddefnyddwyr adolygu’r erthygl ystadegol ategol sy’n amlinellu’r tybiaethau hyn.
- Cyfrifo neu gasglu data
Sut y cyfrifir y lluosyddion
Mae'r lluosyddion a'r effeithiau a gyflwynir yn y set ddata hon yn deillio o'r tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru. Mae adroddiad methodoleg sy'n disgrifio sut y lluniwyd y tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r dull o gynhyrchu lluosyddion ac effeithiau cynnyrch economaidd, GVA, a chyflogaeth yn dilyn yn fras y dull a amlinellir yn Miller and Blair (2019) (Gwasg Prifysgol Caergrawnt).
Nodyn ar effeithiau a ysgogwyd
Un manylyn pwysig ym methodoleg Math 2 yw’r ffordd y caiff cyfernodau gwariant aelwydydd eu cyfrifo.
Yn hytrach na rhannu gwariant treuliant aelwydydd â chyfanswm y golofn, rydym yn ei rannu â chyfanswm incwm aelwydydd o bob ffynhonnell. Yn 2022, £89,095 miliwn oedd yr enwadur a ddefnyddiwyd, sef swm adnoddau cynradd ac eilradd o gyhoeddiad Incwm Aelwydydd Gros i’w Wario y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r dull hwn yn adlewyrchu'r ffaith nad yw holl dreuliant aelwydydd yn cael ei ariannu gan incwm a enillwyd. Mae cyfran sylweddol yn cael ei ariannu trwy incwm na enillwyd, megis pensiynau, difidendau, a throsglwyddiadau eraill. Byddai cynnwys y ffynonellau hyn yn y cylch adborth yn chwyddo effaith incwm a enillwyd mewn modd artiffisial wrth ysgogi rhagor o wariant gan aelwydydd.
Nodyn ar amcangyfrifon cyflogaeth
Dim ond ar gyfer dadansoddiadau mewnbwn-allbwn y dylid defnyddio'r amcangyfrifon cyflogaeth cyfwerth ag amser llawn (FTE) a gyflwynir yn y set ddata hon.
Mae amcangyfrifon o nifer y gweithwyr cyflogedig yn deillio o Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES) (ONS). Ategir y rhain gan ddata NOMIS ar hunangyflogaeth a swyddi Lluoedd EF yng Nghymru. Cymerir amcangyfrifon cyflogaeth ym maes amaeth yn uniongyrchol o Arolwg Amaethyddol a Garddwriaethol Llywodraeth Cymru.
Defnyddir pwysyn syml o 0.5 ar gyfer gweithwyr rhan-amser i ganfod amcangyfrifon cyfwerth ag amser llawn.
- Ansawdd ystadegol
Sut mae’r tablau hyn yn cymharu â’r cyhoeddiadau blaenorol
Ni ddylid cymharu’r lluosyddion a’r effeithiau hyn gyda chyhoeddiad 2019, gan fod y dulliau a’r ffynonellau data sy’n sail i’r tablau mewnbwn-allbwn wedi eu haddasu’n sylweddol.
Beth yw’r prif gyfyngiadau
Mae dadansoddiadau mewnbwn-allbwn gan ddefnyddio lluosyddion yn enghraifft o fodelu ecwilibriwm rhannol. Ni chaiff newidiadau i strwythur yr economi ar yr ochr gyflenwi eu modelu. Mae gan hyn nifer o oblygiadau pwysig y dylid eu hystyried wrth ddehongli’r data.
Mae’n bwysig nodi y bydd y lluosyddion a gyflwynir yma yn tueddu i or-ddweud yr effeithiau anuniongyrchol, ond ni fydd maint y gor-ddweud yn hysbys. Mae dadansoddi gan ddefnyddio lluosyddion a’r tablau mewnbwn-allbwn yn gweithio orau pan fo maint yr effeithiau'n gymharol fach o’i gymharu â maint y diwydiannau perthnasol (a’u gweithluoedd) ar yr ochr gyflenwi.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd y data, methodoleg, a chyngor ar ddefnydd priodol o’r data yn yr erthygl ystadegol ategol. Anogir yn gryf i ddefnyddwyr adolygu’r ddogfen hon cyn gwneud unrhyw ddadansoddiadau gan ddefnyddio'r data.
Mae'r lluosyddion a'r effeithiau wedi eu seilio ar y tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru. Fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad, mae rhai agweddau o’r broses o greu’r tablau lle mae'r data yn llai cadarn. Manylir ar y cyfyngiadau hyn yn yr adroddiad methodoleg sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Adroddiadau cysylltiedig
- Lluosyddion economaidd dangosol (tablau mewnbwn-allbwn): adroddiad methodoleg | Cymraeg
- Lluosyddion economaidd dangosol (tablau mewnbwn-allbwn): adroddiad methodoleg | Saesneg
- Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn: adroddiad methodoleg 2022 | Cymraeg
- Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn: adroddiad methodoleg 2022 | Saesneg
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru