Oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl preswylfa’r claf a darparwr driniaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf:Chwefror 2026
Diweddariadau
- 22ain Ebrill 2026
Data newydd wedi'i ychwanegu
- 5ed Mawrth 2026
Data newydd wedi'i ychwanegu
- 24ain Chwefror 2026
Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data
- 20ain Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau deintyddol
- Cyfnod amser dan sylw
- Mawrth 2019 i Rhagfyr 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar lif cleifion trawsffiniol. Dangosir data ar gyfer oedolion a phlant sy'n cael eu trin yn ôl gwlad breswyl a gwlad y darparwr triniaeth, ar gyfer pob cyfnod treigl o 24 mis i oedolion a phob cyfnod treigl o 12 mis i blant.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod plant yn cael eu galw’n ôl am archwiliadau bob 3 mis i 12 mis yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi plant sy'n cael eu trin, dylai'r mesur ystadegol sylfaenol fod yn seiliedig ar blant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 12 mis.
Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi derbyn sawl cyfnod ofal yn ystod y cyfnod cyfeirio.
Ar gyfer cleifion sy'n byw y tu allan i Gymru, mae pob gwlad breswyl (Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi'u grwpio gyda'i gilydd yn y categori 'Tu Allan i Gymru'. Yn yr un modd, ar gyfer cleifion a gafodd eu trin y tu allan i Gymru, mae pob gwlad (Lloegr ac Ynys Manaw) wedi'u grwpio gyda'i gilydd yn y categori 'Tu allan i Gymru'
Ni ddangosir data ar gyfer cleifion nad ydynt yn byw yng Nghymru sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru.
Mae unrhyw gleifion sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyfrif o dan Cwm Taf Morgannwg am bob cyfnod 24 mis (oedolion) a 12 mis (plant); Mae hyn yn cynnwys cyfnodau cyfeirio sy'n ymestyn dros y cyfnod cyn i newidiadau ffiniau y bwrdd iechyd ddigwydd ym mis Ebrill 2019.
- Ansawdd ystadegol
Mae gan ganran fach o gleifion a gafodd eu trin yng Nghymru ddata preswylio anghyflawn neu annilys ym mhob cyfnod cyfeirio. Fel arfer, ni chaiff tua 2% o oedolion a thua 2% o blant a gafodd eu trin ym mhob cyfnod cyfeirio eu mapio i wlad breswyl. Yn ogystal, mae’n bosibl y gallai nifer bach o gleifion sy’n preswylio yng Nghymru gael eu trin y tu hwnt i Gymru heb ddata preswylio dilys wedi’i gofnodi ac felly ni fyddent yn cael eu cyfrif.
Mae’r data ar gleifion a gafodd eu trin yng Nghymru yn cynnwys gwlad breswyl o bob gwlad yn y DU ac Ynysoedd y Sianel. Dim ond data ynglŷn â’r rhai a gafodd eu trin yn Lloegr ac Ynysoedd y Sianel y mae data ar gleifion o Gymru a gafodd eu trin y tu hwnt i Gymru yn cynnwys. Efallai y bydd nifer bach o gleifion sy’n preswylio yng Nghymru wedi cael eu trin yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban nad ydynt wedi’u cynnwys yn y data hwn.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru