Plant sydd wedi’u himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, yn ôl ardal Dechrau'n Deg ac awdurdod lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 23ain Medi 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys newid i deitl y set ddata.
- 15fed Medi 2026
Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data
- 5ed Tachwedd 2025
- 8fed Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- adroddiad COVER
- Darparwr data 2
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data 2
- Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2014 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- f5060a7c-8b2c-41c4-985f-f0a75a5dac5f
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn darparu data ar y niferoedd a fanteisiodd ar imiwneiddio yn ystod plentyndod ar gyfer carfannau o blant a ddaw yn 4 oed yn ystod y flwyddyn ariannol y cyflwynir yr ystadegau ar ei chyfer. Y plant yw'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg ar yr adeg y caiff y data eu hechdynnu a'u cyflwyno gan awdurdod lleol.
Mae brechlynnau’n cael eu cynnig i bob plentyn, fel rhan o’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant, i’w hamddiffyn rhag Difftheria, Tetanws, Pertwsis, Polio, Haemoffilws ffliw (Hib), y Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rwbela, Llid yr Ymennydd C a haint Niwmococol (PCV). Mae brechiadau’n cael eu rhoi yn unol ag amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant sy’n dechrau 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu geni. Y nod yw bod pob plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn erbyn ei ben-blwydd yn bedair oed.
Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg, a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n cynnig cymorth i deuluoedd â phlant pedair oed ac iau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gyda'r nod o wella canlyniadau i blant a'u teuluoedd.
Mae’r rhaglen yn darparu pecyn o gymorth sy'n cynnwys gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Cafodd Dechrau’n Deg ei lansio yn 2006, a cafodd pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ei ehangu i fwy o deuluoedd ym mis Medi 2022.
- Cyfrifo neu gasglu data
Prif ffynhonnell y data a ddefnyddiwyd yn y datganiad ystadegol hwn yw’r Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER) (rhifiadur) a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) (enwadur).
Mae’n cynnwys yr imiwneiddiadau canlynol: Difftheria, Tetanws, Pertwsis, Polio, Haemoffilws ffliw (Hib), y Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rwbela, Llid yr Ymennydd C a haint Niwmococol (PCV). Dadansoddiad gan Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran adroddiad ansawdd.
- Ansawdd ystadegol
Nid oes unrhyw faterion penodol o ran ansawdd ystadegol mewn perthynas â’r data hwn.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru