Pob genedigaeth yn ôl grŵp ethnig

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp ethnig
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dull geni
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026

Diweddariadau

4ydd Awst 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf ac yn cynnwys diwygiadau i ddata’r flwyddyn flaenorol. Mae pob diwygiad wedi’i nodi â’r cod nodyn [r]. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys newid i deitl y set ddata.

19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MIDS)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025
ID y set ddata
f3f3d5ab-9690-44f7-bbd3-00bf56a509af

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nifer y genedigaethau byw a marw-enedigaethau wedi’u dadansoddi yn ôl grŵp ethnig a bwrdd iechyd lleol.

Mae’r data hyn yn deillio o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol y fam â chofnod genedigaeth y plentyn.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru

Mae’r dull geni yn ymwneud â sut y cafodd y babi ei eni, ac yn aml mae’n wahanol i ddull dechrau’r esgor.

Cofnodir tri dull geni yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a chânt eu diffinio fel a ganlyn:

  • esgor trwy doriad Cesaraidd: esgor trwy doriad Cesaraidd dewisol a brys
  • esgor gydag offer: esgor seffalig ac esgor gydag offer ventouse (teclyn siâp cwpan)
  • esgor trwy’r wain: caiff y babi ei eni'n naturiol gan y fam

Mae’r geiriadur data hefyd yn diffinio sut y mae grwpiau ethnig yn cael eu dosbarthu, fel a ganlyn:

  • Gwyn (unrhyw gefndir Gwyn)
  • Asiaidd (Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, ac unrhyw gefndir Asiaidd arall)
  • Cymysg/amlethnig (Gwyn ac Asiaidd, Gwyn a Du Affricanaidd, Gwyn a Du Caribïaidd, ac unrhyw gefndir cymysg arall)
  • Arall (unrhyw grŵp ethnig arall)
  • Du (Affricanaidd, Caribïaidd, ac unrhyw gefndir Du arall).
Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.

Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.

Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth.

Ansawdd ystadegol

Yn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’u cofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi’i eithrio o’r dadansoddiad. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.

Mae’r canrannau yn seiliedig ar gofnodion sy’n cynnwys data dilys ar gyfer y dull geni a adroddwyd gan y 6 bwrdd iechyd sydd wedi’u cynnwys yng nghyfanswm Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adroddiad ansawdd

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru