Mynegai teithiau bws lleol yn ôl gwlad y DU a Llundain a fesul blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
27 o 27 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhanbarth
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:2027

Diweddariadau

31ain Mawrth 2026

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data 2023-24 a 2024-25 a ffigurau diwygiedig ar gyfer data 2018-19 i 2022-23.

19eg Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Yr Adran Drafnidiaeth
Ffynhonnell y data
Arolwg o gerbydau gwasanaethau cyhoeddus
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 1998 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn manylu ar deithiau bysiau lleol yn ôl blwyddyn hyd at flwyddyn ariannol 2024-25, lle mae Lloegr yn cynnwys Llundain neu heb fod yn cynnwys Llundain. Cyflwynir data am nifer y teithiau bysiau lleol ar ffurf canran lle mae pob blwyddyn yn cael ei chymharu â theithiau ym 1998-1999, sy'n cael ei bennu’n 100 y cant.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae gwybodaeth am gerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn dod o'r datganiadau blynyddol a gyflwynir i'r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 450 o ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus ("yr arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus"). Mae'r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth am deithiau gan deithwyr, milltiroedd cerbyd, derbyniadau oddi wrth deithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai sy'n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth oddi wrth y gweithredwyr bysiau mwy o faint am newidiadau i brisiau tocynnau, dibynadwyedd gwasanaethau, a nifer y cwsmeriaid fesul chwatrer. Mae manylion llawn y ffynonellau data a'r dulliau a ddefnyddir i'w gweld yn y canllawiau: https://www.gov.uk/government/publications/buses-statistics-guidance.

Ansawdd ystadegol

Mae'r arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn defnyddio technegau priodoli i bennu ffigurau allweddol ar gyfer gweithredwyr na chawsant eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau, gellir gwella ffigurau priodoledig ar gyfer blynyddoedd cynharach drwy ddefnyddio data gwirioneddol a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd diweddarach. Gall hynny arwain at fân ddiwygiadau i ôl-ddata, er mai anaml y bydd hynny'n cael effaith fawr ar dueddiadau.

Yn achos y dangosyddion allweddol (teithiau gan deithwyr a milltiroedd cerbyd), mae'r data a ddarperir gan y gweithredwyr yn cynnwys rhyw 90 y cant neu fwy o'r cyfanswm, ac mae'r gweddill yn cael ei briodoli. Drwy gymharu â ffynonellau eraill, gwelir, ar lefel gyfanredol (Prydain), bod yr ystadegau'n rhoi mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.

Er hynny, dylid bod yn ofalus yn achos ffigurau sy'n cynrychioli grwpiau llai o weithredwyr a newidiadau o un flwyddyn i'r llall, a hynny oherwydd ei bod yn fwy tebygol bod camgymeriadau'n cael eu gwneud wrth fesur (er enghraifft, datganiad anghywir gan weithredwr, neu weithredwr yn newid y ffordd y mae'n paratoi'r ffigurau angenrheidiol). Mae camgymeriadau o'r fath yn debygol o fod yn llai amlwg ar y lefel genedlaethol. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau rhanbarthol, ac yn enwedig ffigurau ar lefel yr awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru