Ystadegau dementia ar gyfer pobl 65 oed neu hŷn yn ôl bwrdd iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

4ydd Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data 1
Audit+
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2020 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar gyfer pobl 65 oed neu hŷn: a) yr amcangyfrifir bod ganddynt ddementia, b) ar y gofrestr dementia (wedi'u cofnodi fel rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia mewn practisau meddygon teulu), c) yr amcangyfrifir eu bod heb ddiagnosis o ddementia a d) % sydd wedi cael diagnosis o ddementia.

Cyfrifo neu gasglu data

Caiff nifer y cleifion sy'n cael diagnosis o ddementia ey cofnodi ar gofrestr clefyd dementia practisau meddygon teulu. Fodd bynnag, mae ymchwil glinigol yn awgrymu nad yw nifer o bobl â dementia yn cael diagnosis ffurfiol ohono. Yng ngoleuni hyn, cyflwynir data hefyd ar gyfer cyfanswm y bobl yr amcangyfrifir bod ganddynt ddementia yng Nghymru, yn seiliedig ar gyfraddau cyffredinrwydd a gyhoeddwyd mewn papur Lancet o Astudiaeth Gweithrediad Gwybyddol a Heneiddio (CFAS) II a data poblogaeth cyffredinol. Mae’r gwahaniaeth rhwng y nifer yr amcangyfrifir o nifer y bobl a allai fod yn dioddef o’r clefyd ond nad ydynt wedi cael diagnosis ohono eto.

Cyflwynir data ar gyfer cleifion 65 oed neu hŷn, gan fod y mwyafrif helaeth o gleifion dementia yn y grŵp oedran hwn.

O 2023 ymlaen, mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio data ar gyfer y grŵp oedran yn uniongyrchol o systemau meddygon teulu. Cyn hyn, amcangyfrifwyd y nifer gan ddefnyddio echdyniadau data QAIF (nad oeddent ar gael yn ôl canran y cleifion dementia dros 65 oed drwy’r ffynhonnell arall (systemau meddygon teulu).

Mae’r dadansoddiad dementia yn defnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar adeg eu cyhoeddi. Felly, mae’r amcangyfrifon o nifer y bobl sydd â dementia yng Nghymru un ymwneud â 2019 ar gyfer 2020; 2021 ar gyfer 2021 a 2022; 2022 ar gyfer 2023 a 2024; a 2024 ar gyfer 2025.

Ansawdd ystadegol

Defnyddiwyd yr un amcangyfrif canol blwyddyn i gyfrifo nifer y bobl â dementia ar gyfer a) 2021 - 2022 a b) 2023 - 2024. Felly, ar gyfer y nifer amcangyfrifedig o bobl â dementia, dim ond tueddiadau cyffredinol y gellir eu harsylwi ac ni ddylid gwneud cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn.

Gwybodaeth am orchudd data cofrestr clefydau dementia 2020: Caiff 100% o bractisau meddygon teulu eu cynnwys yn nata'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd ar gyfer 2019-20; mae'r data yn seiliedig ar bob un o'r 399 o bractisau gweithredol ar 30 Medi 2020. Fodd bynnag, daw data Audit+ o 395 allan o 397 o bractisau gweithredol ar 14 Rhagfyr, gan nad oedd dau bractis a ddarparodd ddata ar gofrestrau clefydau'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd yn gallu darparu data Audit+.   2021: Mae data’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd yn seiliedig ar 391 o’r 392 o bractisau gweithredol ar 30 Medi 2021. Nid yw data ar gael ar gyfer W97036. Mae data Audit+ yn seiliedig ar 390 o’r 392 o bractisau gweithredol ym mis Hydref 2021.   2022: Mae 100% o bractisau meddyg teulu wedi’u cynnwys yn nata’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd ar gyfer 2021-22; mae’r data yn seiliedig ar y 386 o bractisau gweithredol ar 30 Medi 2022. Mae data Audit+ hefyd yn seiliedig ar bob un o’r 386 practis.

2023: Yn 2023, cyflwynodd pob practis heblaw am un (W97048) ddata.

2024: Yn 2024, cyflwynodd pob practis ddata.

2025: Yn 2025, cyflwynodd pob practis ddata.

Talgrynnu wedi'i wneud

Canran o gleifion wedi'u diagnosio eu talgrynnu i un lle degol.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru