Demograffeg busnesau yn ôl ardal a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
42 o 42 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Rhagfyr 2026

Diweddariadau

22ain Ionawr 2026

Diweddarwyd yr adran 'Am y set ddata hon' i adlewyrchu'r flwyddyn ddiweddaraf o ddata poblogaeth sydd ar gael.

3ydd Rhagfyr 2025

Diweddariad arferol i ychwanegu data newydd a diwygio data presennol lle bo angen.

24ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 1
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Demograffeg busnes
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2002 i Rhagfyr 2024

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn rhoi manylion genedigaethau, marwolaethau a mentrau gweithredol busnes yn ôl mesur, ardal a blwyddyn.

Mae mentrau gweithredol yn fusnesau a oedd â throsiant neu gyflogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyfeirio (Rhagfyr i Ragfyr).

Diffinnir genedigaeth fel busnes a oedd yn bodoli ym mlwyddyn t, ond nad oedd yn bodoli ym mlwyddyn t-1 neu t-2. Nodir genedigaethau drwy gymharu ffeiliau poblogaeth gweithredol blynyddol a nodi'r rhai hynny a oedd yn bodoli yn y ddiweddaraf, ond nid yn y ddwy flaenorol.

Diffinnir marwolaeth fel busnes a oedd ar y ffeil weithredol ym mlwyddyn t ond nad yw’n bodoli bellach ar y ffeil weithredol ar gyfer blwyddyn t+1 neu t+2. Er mwyn cynhyrchu ystadegau manylach, mae ystadegau demograffeg busnes y DU yn cynnwys dangosydd marwolaeth rhagarweiniol, sy’n cynnwys addasiad ar gyfer ailgychwyniadau a amcangyfrifir. Mae ailgychwyniadau’n digwydd pan fydd busnes yn segur am gyfnod o lai na 2 flynedd, yna’n ailddechrau gweithgarwch mewn modd sy’n cydymffurfio â diffiniad o barhad. Os nad yw’r diffiniad o barhad yn cael ei fodloni (e.e. os yw busnes yn ailddechrau gweithgarwch ond mewn gwahanol leoliad a gyda gwahanol weithgarwch), byddai hyn yn cael ei ystyried yn farwolaeth wedyn genedigaeth. Gall ailgychwyniadau ddigwydd hefyd yn sgil oedi yn ffynhonnell y data gweinyddol (TAW/Talu Wrth Ennill) felly gall busnes sy’n parhau i fasnachu ymddangos fel petai wedi marw. Nid yw’r data marwolaethau’n cynnwys colledion i’r boblogaeth yn sgil busnesau’n uno, yn dod i ben, yn gwahanu neu’n ailstrwythuro.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio data o'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) i gynhyrchu ei hystadegau ar ddemograffeg busnesau, gan ddefnyddio canllawiau a geir yn y llawlyfr Eurostat/y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar Ddemograffeg Busnes. Y man cychwyn ar gyfer demograffeg yw'r cysyniad o boblogaeth o fusnesau gweithredol mewn blwyddyn gyfeirio. Diffinnir y rhain fel busnesau oedd â throsiant neu gyflogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyfeirio. Yna, mae genedigaethau a marwolaethau'n cael eu nodi drwy gymharu poblogaethau gweithredol ar gyfer gwahanol flynyddoedd.

Cyfrifir cyfraddau geni a marwolaeth fel canran o fentrau gweithredol.

Mae genedigaethau, marwolaethau a mentrau gweithgar fesul 10,000 o’r boblogaeth 16 i 64 oed wedi’u cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth ONS, sydd are gael hyd at 2024 ar hyn o bryd.

Ansawdd ystadegol

Gall cyfansymiau fod ychydig yn wahanol rhwng dadansoddiadau'r ardal a'r diwydiant oherwydd y dulliau rheoli datgelu a ddefnyddiwyd.

Sylwch, mae lefelau ar gyfer rhanbarthau economaidd Cymru a phob cyfradd ganran (gan gynnwys ffigyrau pob 10,000 o'r boblogaeth) wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio'r ffigyrau wedi’u talgrynnu, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gallai'r amcangyfrifon dwy flynedd ddiweddaraf ar farwolaethau gael eu diwygio a byddai hynny'n cael ei wneud yng nghyhoeddiad y flwyddyn ganlynol fel arfer.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae genedigaethau busnes, marwolaethau busnes a mentrau gweithredol wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf, mae cyfraddau wedi'u talgrynnu i 1 lle degol, a fesul 10,000 o'r boblogaeth i'r rhif cyfan agosaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.economi@llyw.cymru