Eitemau a bresgripsiynwyd a chostau cynhwysion net yn ôl yr uned bresgripsiynu a'r bwrdd iechyd lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
15 o 15 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

6ed Hydref 2025
2ail Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Presgripsiwn
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2010 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar eitemau sy'n cael eu presgripsiynu gan unrhyw aelod o staff practis cyffredinol yn Nghymru sy'n gymwys i wneud hynny, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yn y DU. Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un eitem wahanol o feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn, waeth beth fo'r swm neu'r cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu cyflenwi sy'n cael eu cyfrif. Cost net cynhwysion, wedi'i mesur mewn punnoedd sterling, yw cost sylfaenol yr eitem, cyn unrhyw ffioedd ychwanegol (er enghraifft, ffioedd cyflenwi i fferyllfeydd) neu ostyngiadau (adfachiadau'r GIG). I gyfrif am y gwahanol broffiliau oedran, dadansoddir data'r byrddau iechyd yn ôl yr uned bresgripsiynu, yn hytrach nag yn ôl poblogaeth y bwrdd iechyd yn unig. Caiff unedau presgripsiynu eu cyfrifo drwy roi mwy o bwysoliad (o ffactor o dri) i’r boblogaeth sy'n 65 oed neu'n hŷn. Drwy wneud yr addasiad hwn ar gyfer proffiliau oedran, mae'r gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd yn fwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaethau yn iechyd y poblogaethau a gwahaniaethau yn y diwylliant presgripsiynu lleol. O 1 Ebrill 2019 daeth byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf i ben a chawsant eu disodli gan fyrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg.

Cyfrifo neu gasglu data

Daw'r data am bresgripsiynau i law oddi wrth Wasanaethau Presgripsiynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent yn seiliedig ar yr wybodaeth ar ffurflenni presgripsiwn a anfonir gan bresgripsiynwyr i gael eu talu.

Ansawdd ystadegol

Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru