Dadansoddiad o faint y busnesau yn ôl band maint, ardal a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
29 o 29 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Band maint
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Newidyn
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

31ain Mawrth 2026

Diweddariad arferol i ychwanegu data newydd a diwygio data presennol lle bo angen.

30ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Cyllid a Thollau EF
Ffynhonnell y data 1
Arolwg o Incwm Personol (SPI)
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Cofrestr Busnes Rhyngadrannol (IDBR)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2003 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn darparu data ar strwythur y mentrau sy'n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys amcangyfrifon ar gyfer y busnesau lleiaf sy'n gweithredu o dan y trothwy TAW.

Mae'r newidynnau a ddadansoddwyd yn gyfrif o nifer y mentrau sy'n weithredol ym mhob ardal, ynghyd â chyflogaeth gysylltiedig a chyfanredau trosiant ym mhob un o'r diwydiannau a bandiau maint penodol, gyda'r ail yn cael ei ddefnyddio ar nifer y gweithwyr yn y DU yn y fenter yn gyffredinol. Noder bod y dadansoddiadau o ardal yn y data yn seiliedig ar y gweithle.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data a roddir wedi’u seilio ar fentrau sydd â rhywfaint o weithgarwch yng Nghymru, ni waeth beth yw rhanbarth y cofrestriad. Yn y cyd-destun hwn, cymerir bod menter yn sefydliad cyfan, gan gynnwys ei phrif swyddfa a’r holl safleoedd unigol yn y DU, lle bynnag y bônt. Mae rhanbarth y fenter fel arfer wedi’i seilio ar leoliad ei phrif swyddfa, er y gall y safleoedd fod mewn rhanbarthau eraill. Mae’r ffigurau a roddir ar gyfer cyflogaeth a throsiant ar gyfer Cymru yn y dadansoddiad hwn yn ymwneud â safleoedd y mentrau sydd yng Nghymru yn unig.

Ym mhob achos, mae band maint y fenter wedi’i seilio ar nifer y cyflogeion yn y DU (boed amser llawn neu ran amser) yn y fenter. Mae hyn yn sicrhau bod menter sy’n cyflogi 10,000 o staff yn y DU ond dim ond llond llaw yng Nghymru’n cael ei chategoreiddio fel menter fawr ac nid microfenter.

Mae’r mentrau yr ymdrinnir â hwy i gyd yn fentrau yn y sector preifat (hynny yw, cwmnïau, unig berchnogaethau, partneriaethau, cyrff dielw preifat a chymdeithasau cydfuddiannol), a hefyd corfforaethau cyhoeddus a chyrff gwladoledig. Caiff sefydliadau llywodraeth leol a chanolog eu heithrio.

Mae’r data wedi’u deillio o nifer o ffynonellau. Y brif ffynhonnell yw detholiad manwl a gymerir ym mis Mawrth bob blwyddyn o’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae hon yn rhoi manylion yr holl fentrau sy’n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys ffigurau cyflogaeth a throsiant y DU a ffigurau deilliedig ar gyfer elfennau cyflogaeth a throsiant Cymru (gan ddefnyddio gwybodaeth am y safleoedd ym mhob menter sydd yng Nghymru). Mae hefyd yn cynnwys dynodwyr ar gyfer diwydiant (gan ddefnyddio’r Dosbarthiad Diwydiannol Safonol), lleoliad daearyddol a statws cyfreithiol pob menter, ac felly’n caniatáu’r dadansoddiad a roddir yma.

Mae ffynonellau data eraill sy'n cyfrannu i'r data hwn yn cynnwys yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) a'r Arolwg o Incwm Personol (SPI).

Ansawdd ystadegol

Mae'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau yn ymdrin â chyfran fawr iawn o'r gyflogaeth a'r trosiant yn y DU, ond oherwydd ei bod yn eithrio'r rhan fwyaf o'r nifer fawr iawn o fusnesau lleiaf sy'n gweithredu o dan y trothwy ar gyfer TAW, dim ond rhan o'r holl nifer o fentrau (oddeutu 50%) mae'n ymdrin â hwy. Er mwyn cywiro ar gyfer hyn, mae'r ffigurau a ddangosir yma'n cynnwys amcangyfrifon ar gyfer mentrau sydd heb eu cofrestru, ynghyd â'r gyflogaeth a'r trosiant sy'n gysylltiedig â hwy. Cyfrifir yr amcangyfrifon hyn ar gyfer mentrau sydd heb eu cofrestru gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol: data'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau; gwybodaeth am bersonau sy'n hunangyflogedig yn eu prif neu ail swydd, wedi'i chymryd o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; a gwybodaeth am nifer yr unig fasnachwyr a phartneriaethau o'r data Arolwg o Incymau Personol a ddarperir gan Gyllid a Thollau EF.

Mae amcangyfrifon ar gyfer trosiant yn eithrio ffigurau o'r sector gwasanaethau ariannol a busnes yn y set ddata hon i gyd. Mae hyn oherwydd bod y wybodaeth am drosiant a gofnodir ar y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau ar gyfer mentrau yn y sector gwasanaethau ariannol hefyd yn cynnwys y symiau yn y trafodion a gyflawnir gan y mentrau hyn ac felly nid yw'n gymaradwy â’r wybodaeth am drosiant yn y sectorau eraill.

Nid yw data trosiant yn gymharol â data cyn 2010 oherwydd toriad yn y gyfres amser a achoswyd gan y symud i ddiffiniadau diwydiant SIC 2007.

Mae'r band maint sero y cyflogai yn cynnwys cwmnïau gyda un cyflogai. Mae hyn oherwydd bod pobl sy'n gweithio ar eu pen eu hunain ac i gofrestru fel cwmni yn awtomatig yn dod yn gyflogai y cwmni pan gaiff ei sefydlu. Heb addasiad hwn, bydd nifer o fusnesau gyda sero cyflogeion yn newid oherwydd newidiadau mewn statws cyfreithiol (a gall gael ei ysgogi gan newidiadau mewn treth / atebolrwydd cyfreithiau er enghraifft), yn hytrach drwy unrhyw newid gwirioneddol yn yr economi.

Gan fod y dadansoddiad yn seiliedig ar y cysyniad o fentrau gweithredol mewn ardal, ni fydd y cyfrif menter ar gyfer awdurdodau lleol yn adio i fyny i gyfansymiau Cymru. Mae hyn oherwydd y gall menter unigol gweithredol yng Nghymru fod yn weithgar mewn mwy nag un o'r awdurdodau lleol. Gallai hyn arwain at gyfrif y fenter unigol sawl gwaith wrth grynhoi gwahanol ardaloedd.

Talgrynnu wedi'i wneud

Gan fod yr holl gyfrifiadau mentrau a chyfansymiau cyflogaeth yn y set ddata hon wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r 5 a 100 agosaf yn y drefn honno, a bod yr holl gyfansymiau trosiant wedi cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r miliwn o bunnoedd agosaf, mae'n bosibl na fydd y ffigurau'n adio'n union.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.economi@llyw.cymru