Nifer y derbyniadau i adrannau Offthalmoleg drwy ddiagnosis sylfaenol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Data newydd wedi'i ychwanegu ar gyfer 2025-26.
- 30ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2015 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- eed77077-dd96-49c9-a2a6-d4c127072d00
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer y derbyniadau i adrannau offthalmoleg mewn ysbytai yng Nghymru. Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl diagnosis sylfaenol a blwyddyn ariannol.
Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i'r prif resymau pam y caiff cleifion eu derbyn i wasanaethau offthalmoleg dros amser.
- Cyfrifo neu gasglu data
Y diffiniad o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty yw cleifion sy'n aros o leiaf un noson (cleifion mewnol), neu gleifion sy'n cael eu derbyn yn ddewisol ar gyfer triniaeth neu ofal nad oes angen aros dros nos yn yr ysbyty ar ei gyfer (achosion dydd). Mae'r diffiniadau hyn yn pennu pwy sydd wedi'u cynnwys yn y data a gyflwynir. Mae rhagor o wybodaeth am ddata derbyniadau ar gael ar wefan Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW).
Caiff data derbyniadau eu grwpio yn ôl y categorïau canlynol: Cataract, Dirywiad Macwlaidd sy'n Gysylltiedig ag Oedran, Retinopathi Diabetig, Glawcoma, Arall (ar gyfer pob diagnosis sy'n weddill) ac Anhysbys.
- Ansawdd ystadegol
Ar gyfer 2025-26, roedd 5.3% o'r codio clinigol yn anghyflawn. O ystyried lefel y codio anghyflawn dros y pedair blynedd ddiwethaf, nid yw'n bosibl cymharu'n gywir nifer y derbyniadau am resymau penodol (megis cataractau, dirywiad macwlaidd, glawcoma a retinopathi diabetig) yn 2022-23, 2023-24, 2024-25 a 2025-26 â'r blynyddoedd blaenorol. Nid yw cyfanswm nifer y derbyniadau i offthalmoleg yn cael ei effeithio gan y mater hwn ac felly gellir gwneud cymariaethau cyfres amser ar gyfer cyfanswm y derbyniadau yn deg.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru