Nifer y derbyniadau i adrannau Offthalmoleg drwy ddiagnosis sylfaenol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Diagnosis Cynradd
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2015 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer y derbyniadau i adrannau offthalmoleg mewn ysbytai yng Nghymru. Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl diagnosis sylfaenol a blwyddyn ariannol. Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i'r prif resymau pam y caiff cleifion eu derbyn i wasanaethau offthalmoleg dros amser.

Cyfrifo neu gasglu data

Y diffiniad o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty yw cleifion sy'n aros o leiaf un noson (cleifion mewnol), neu gleifion sy'n cael eu derbyn yn ddewisol ar gyfer triniaeth neu ofal nad oes angen aros dros nos yn yr ysbyty ar ei gyfer (achosion dydd). Mae'r diffiniadau hyn yn pennu pwy sydd wedi'u cynnwys yn y data a gyflwynir. Mae rhagor o wybodaeth am ddata derbyniadau ar gael ar wefan Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW). Caiff data derbyniadau eu grwpio yn ôl y categorïau canlynol: Cataract, Dirywiad Macwlaidd sy'n Gysylltiedig ag Oedran, Retinopathi Diabetig, Glawcoma, Arall (ar gyfer pob diagnosis sy'n weddill) ac Anhysbys. Yna, caiff nifer y derbyniadau (cyfnodau) eu cyfansymio yn ôl blwyddyn ariannol a grŵp diagnostig. Mae cyfanswm nifer y derbyniadau hefyd yn cael ei gyfrifo ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae'r data cyfanredol hyn yn ffurfio'r set ddata derfynol.

Ansawdd ystadegol

Ar gyfer 2024-25, roedd 7.5% o'r codio clinigol yn anghyflawn. O ystyried lefel y codio anghyflawn dros y tair blynedd diwethaf, nid yw'n bosibl cymharu'n gywir nifer y derbyniadau am resymau penodol (fel cataractau, dirywiad macwlaidd, glawcoma a retinopathi diabetig) yn 2022-23, 2023-24 a 2024-25 â blynyddoedd blaenorol. Nid yw'r mater hwn yn effeithio ar gyfanswm nifer y derbyniadau i offthalmoleg ac felly gellir gwneud cymariaethau ar hyd y gyfres amser ar gyfer cyfanswm y derbyniadau yn deg.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru