Amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd preifat sy'n seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, blwyddyn ac amrywiolyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 25ain Mehefin 2026
Cafodd yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 20 Tachwedd 2025 eu diwygio ar 24 Mehefin 2026 oherwydd gwall bach yn y data a ddefnyddiwyd yn yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel.
- 23ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru
- Darparwr data 2
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 2
- Cyfrifiad 2021
- Darparwr data 3
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 3
- Cyfrifiad 2011
- Darparwr data 4
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 4
- Cyfrifiad 2001
- ID y set ddata
- edf40524-b51a-47ce-b1fc-69647f74b5a0
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd preifat ar gyfer Cymru. Mae'n rhoi syniad o nifer y bobl sy'n byw mewn aelwydydd preifat yn y dyfodol. Mae'r amcanestyniadau yn cwmpasu'r cyfnod canol 2022 i ganol 2047. Nid ydynt yn rhagfynegiad na rhagolwg o angen tai yn y dyfodol. Yn hytrach, maent yn dangos beth allai ddigwydd os bydd tueddiadau'r gorffennol yn parhau.
Mae'r set ddata yn cynnwys amcanestyniad niferoedd poblogaeth aelwydydd preifat ar gyfer pob canol blwyddyn, ardal ac amrywiolyn.
Ar gyfer yr amcanestyniadau amrywiadol, mae prif amcanestyniad a phum amcanstyniad amrywiadol ychwanegol. Mae'r amcanestyniadau amrywiadol hyn yn seiliedig ar wahanol dybiaethau am dueddiadau ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Maent yn cynnwys poblogaeth isel, poblogaeth uchel, amrywiolyn mudo cyfartalog 10 mlynedd, amrywiolyn mudo cyfartalog 15 mlynedd ac amrywiolyn mudo sero.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cynhyrchir amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd preifat ar gyfer Cymru gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru.
Mae amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd preifat yn destun ansicrwydd ac maent yn seiliedig ar dybiaethau ynghylch poblogaeth a chyfansoddiad aelwydydd yn y dyfodol. Nid rhagolygon ydynt ac nid ydynt yn ceisio rhagweld yr effaith y gallai polisïau llywodraeth yn y dyfodol, amgylchiadau economaidd newidiol neu ffactorau eraill, fel nifer y cartrefi a adeiladwyd, ei chael ar boblogaeth aelwydydd preifat. Yn hytrach, maent yn dangos sut y gallai poblogaeth aelwydydd preifat newid os yw poblogaeth Cymru yn parhau i newid fel y gwnaeth rhwng canol 2018 a chanol 2022, ac yn parhau i ffurfio aelwydydd fel y gwnaeth rhwng 2001, 2011 a 2021.
Mae'r amcanestyniadau hyn yn defnyddio data am gyfraddau aelodaeth aelwydydd o'r cyfrifiadau o'r boblogaeth diweddaraf sydd ar gael ac yn eu cymhwyso i amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol diweddaraf.
Gall amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd preifat fod yn wahanol i amcangyfrifon poblogaeth aelwydydd preifat a gyhoeddwyd nawr ac yn y dyfodol agos. Rydym yn argymell defnyddio'r amcangyfrifon poblogaeth aelwydydd preifat diweddaraf ar gyfer pob blwyddyn lle maent ar gael.
Datblygwyd y fethodoleg ar y cyd â grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP). Mae aelodau WaSP yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, Data Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r dulliau ar gyfer cyfrifo'r amcanestyniadau hyn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y datganiad amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r amcanestyniadau yn seiliedig ar dybiaethau am dueddiadau'r dyfodol. Nid rhagolygon ydynt a byddant yn wahanol i'r canlyniadau gwirioneddol.
Cafodd yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 20 Tachwedd 2025 eu diwygio ar 24 Mehefin 2026 oherwydd gwall bach yn y data a ddefnyddiwyd yn yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel. Mae'r amrywiolion poblogaeth isel ac uchel ar gyfer amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar y data hyn ac felly maent wedi'u diwygio hefyd.
Am ragor o wybodaeth am ansawdd yr ystadegau, gweler y datganiad ystadegol sydd wedi'i gysylltu yn 'Adroddiadau cysylltiedig'. Mae'r datganiad hwn yn egluro'r fethodoleg, y rhagdybiaethau a'r cyfyngiadau.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae data wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf ac efallai na fyddant yn adio'n union.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru