Staff eraill y practisau (nifer y staff cyfwerth ag amser llawn) yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027
Diweddariadau
- 30ain Mehefin 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Medi 2025
- 17eg Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol
- Darparwr data 2
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru (WNWRS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Rhagfyr 2020 i Medi 2025
- ID y set ddata
- ec92c8ef-4e4e-453e-9ff6-2c8dd901a946
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae hyn yn dangos nifer y nyrsys (cyfrif pennau) a swm cyfwerth ag amser llawn, y staff gofal uniongyrchol i gleifion a’r staff gweinyddol/anghlinigol a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl rhyw a bwrdd iechyd lleol, ar ddyddiadau pob ciplun chwarterol ers 31-Rhag-20.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r ffigurau ar gyfer cyfrif pennau yn gyfrifiadau unigryw. Felly mae unigolyn sy’n cael ei gyflogi nifer o weithiau mewn un bwrdd iechyd lleol neu chategori staff yn cael ei gyfrif unwaith yn unig (ond os bydd unigolyn hefyd yn cael ei gyflogi mewn bwrdd iechyd lleol neu chategori staff arall, bydd yn cael ei gyfrif unwaith ym mhob bwrdd neu chategori staff). Felly, ni ellir cyfrif ffigurau yn ôl bwrdd iechyd lleol na chategori staff.
Mae'r ffigurau ar gyfer CALl yn cyfrif tuag at y data ynghylch rhyw a’r bwrdd iechyd y mae pob contract yn perthyn iddo. Felly bydd y ffigurau CALl ar gyfer pob bwrdd iechyd gyda’i gilydd yn cyfateb i ffigur Cymru a bydd y swm CALl ar gyfer dynion, menywod, arall/anhysbys a heb ei nodi yn cyfateb i'r swm CALl ar gyfer 'personau', yn amodol ar wahaniaethau talgrynnu bach.
- Ansawdd ystadegol
Gweler yr adroddiad ansawdd ystadegol am ragor o wybodaeth am ystadegau gweithlu practisau cyffredinol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru