Ymwrthedd i sgidio ar bob Cefnffordd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2027
Diweddariadau
- 13eg Awst 2026
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data 2025/26
- 21ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyflwr ffyrdd traffyrdd a chefnffyrdd A
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1999 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- eb556d04-b067-4a5d-81dc-c8ad036b71dc
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Ymwrthedd i sgidio – mae hyn yn ymwneud ag arwynebau gwlyb neu laith. Mae’n asesu cyflwr arwyneb y ffordd trwy fesur yr ymwrthedd rhwng teiars y cerbyd a’r ffordd wrth i’r cerbyd gyflymu, brecio neu gornelu. Mae’r profion yn cael eu cynnal ar ôl gwlychu arwyneb y ffordd, gan fod llai o ffrithiant ac ymwrthedd i sgidio ar arwyneb ffordd wlyb. Cynhelir profion ar arwynebau ffyrdd sych o dro i dro er nad ydyn nhw’n rhan o’r gwaith arferol o fonitro’r ymwrthedd i sgidio ar y rhwydwaith ffyrdd. Rhagdybir y bydd ymwrthedd da i sgidio ar bob ffordd lân sych.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cesglir data o arolygon SCRIM
- Ansawdd ystadegol
Cafodd y ffigurau eu cyfrif mewn ffordd newydd o 2004. Effeithiodd hynny fwy ar ffigurau cefnffyrdd amlbwrpas nag ar draffyrdd. Mae’r ffigurau’n ymwneud â hyd y ffyrdd a arolygwyd yn y flwyddyn ac yn y flwyddyn cyn honno (ar gyfer 2006 a blynyddoedd cyn hynny). Nid yw ‘ar neu o dan y lefel ymchwiliad’ yn golygu nad yw’r ffyrdd yn ddiogel; mae’n golygu bod angen ymchwiliad pellach i weld a oes angen gwaith cynnal a chadw ar y rhan honno o’r ffordd. Cafodd y ffigurau newydd ar gyfer 2003 eu hôl-gyfrif i ddarparu ffigur oedd yn cyfateb i’r safon newydd a ddefnyddiwyd o 2004. Yn 2007, am y tro cyntaf, mae’r holl rannau a arolygwyd wedi’u cymryd o’r un flwyddyn. Felly, mae’r ffigurau’n wir gynrychioliadol o’r flwyddyn dan sylw. Hefyd, mae hyd Lôn 1 y rhwydwaith wedi’i ddiweddaru.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru