Tystysgrifau Nam ar y Golwg (CVI) WGOS 3 a roddwyd i drigolion Cymru yn ôl band oedran a bwrdd iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Oed
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
14 o 14 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027

Diweddariadau

8fed Hydref 2026

Ychwanegwyd data newydd (dros dro) ar gyfer 2025-26. Mae data 2024-25 hefyd wedi'i ddiweddaru i gynnwys trigolion Cymru a ardystiwyd yn Lloegr.

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 1
Ffurflen Tystysgrif Nam ar y Golwg
Darparwr data 2
Ysbyty Llygaid Moorfields
Ffynhonnell y data 2
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2012 i Mawrth 2026
ID y set ddata
eab07ea5-1eb2-481b-8b84-8a5034fc1d6f

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer y trigolion Cymru sydd newydd gael eu hardystio'n ddall cofrestredig neu'n rhannol ddall gyda Thystysgrif Nam ar eu Golwg (CVI).

Mae Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 3 yn galluogi cleifion, a fyddai'n elwa ar gymhorthion optegol ac anoptegol, yn ogystal â chymorth a chyngor adsefydlu cyfannol (gan gynnwys cofrestru amhariad ar eu golwg), i gael mynediad at wasanaeth golwg gwan yn eu man preswylio neu'n agos ato. Mae WGOS 3 hefyd yn cynnwys Tystysgrif Amhariad ar y Golwg (CVI).

Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl grŵp oedran, bwrdd iechyd (man preswylio'r claf), a blwyddyn ariannol. Mae ardystio yn broses ffurfiol sy'n cydnabod unigolion â cholled golwg sylweddol a allai fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol. Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i ddosbarthiad ardystiadau newydd ar draws gwahanol grwpiau oedran a byrddau iechyd dros amser.

Cyfrifo neu gasglu data

Ar gyfer 2023-24 ymlaen, caiff data eu hechdynnu o'r system golwg gwan a gynhelir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac sy'n seiliedig ar ddata a gesglir o ffurflen Tystysgrif Amhariad ar y Golwg gan y Bartneriaeth. Darparwyd y data sy'n cwmpasu cyfnodau hyd at 2022-23 gan Ysbyty Llygaid Moorfields ac fe'u hechdynnwyd o'r Gronfa Ddata ar gyfer Data Epidemiolegol ar Dystysgrifau Amhariad ar y Golwg (DEVICE).

Mae'r niferoedd yn seiliedig ar breswylwyr Cymru sydd newydd eu hardystio ar ffurflenni Cymraeg a Saesneg. Ar ôl i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gymryd drosodd yr ymarfer casglu data o 2023-24 ymlaen, mae data ar gyfer preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr yn cael eu darparu ar wahân gan Ysbyty Llygaid Moorfields.

Caiff Tystysgrifau Amhariad ar y Golwg eu grwpio yn ôl blwyddyn ariannol, bwrdd iechyd a chategorïau oedran: o dan 20, 20–59, 60–79, ac 80 neu hŷn, gyda'r cyfansymiau yn cael eu cyfrifo ar lefel y bwrdd iechyd a Chymru. Mae'r niferoedd yn cynrychioli nifer yr ardystiadau newydd ym mhob grŵp.

Ansawdd ystadegol

Mae niferoedd llai na phump wedi'u hatal, ac mae ataliad eilaidd wedi'i gymhwyso lle bo angen i atal datgeliad drwy dynnu.

Mae'r data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn eithrio preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr. Mae hyn oherwydd bod y data hyn yn cael eu darparu gan Ysbyty Llygaid Moorfields yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac felly, bydd y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn cael eu diweddaru i gynnwys preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr yn y cyhoeddiad nesaf.

Ar 1 Ebrill 2019, symudodd y cyfrifoldeb am wasanaeth iechyd preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r byrddau iechyd hefyd: Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru