Aelwydydd y mae cymorth wedi'i ddarparu ar eu cyfer, fesul canlyniad, math o aelwyd, cyfradd a chanran
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 30ain Gorffennaf 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2015 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- e856209f-09d4-4e98-824c-19c101813f67
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Cyflwynir data ar gyfer canlyniadau'r holl aelwydydd a gafodd gymorth digartrefedd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae'n cynnwys nifer yr aelwydydd, cyfraddau fesul 10,000 o aelwydydd, a chanrannau llwyddiant ar gyfer canlyniadau o dan y ddyletswydd atal (Adran 66), y ddyletswydd lliniaru (Adran 73), a'r brif ddyletswydd tai (Adran 75).
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar ffurflen ystadegol a gwblhawyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Cyfrifir cyfraddau trwy rannu'r canlyniad sydd o ddiddordeb â nifer yr aelwydydd a lluosi'r canlyniad â 10,000. Mae ffigurau aelwydydd yn seiliedig ar amcangyfrifon aelwydydd canol blwyddyn Llywodraeth Cymru, gyda'r amcangyfrif sy'n dod o fewn y flwyddyn ariannol berthnasol yn cael ei ddefnyddio ym mhob cyfrifiad. Er enghraifft, cyfrifwyd cyfraddau ar gyfer 2023–24 gan ddefnyddio amcangyfrifon aelwydydd canol 2023.
Eleni, cyfrifwyd cyfraddau 2025-26 gan ddefnyddio amcangyfrifon aelwydydd canol 2024 gan mai dyma'r amcangyfrifon diweddaraf sydd ar gael. Felly, mae data cyfraddau 2025-26 yn ddata dros dro a byddant yn cael eu hadolygu pan fydd amcangyfrifon aelwydydd canol 2025 ar gael.
Cyfrifir canran y canlyniadau llwyddiannus trwy rannu nifer y canlyniadau llwyddiannus â nifer y canlyniadau o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, a lluosi y canlyniad â 100.
- Ansawdd ystadegol
I weld yr wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i'r datganiad ystadegol perthnasol, yn unol â'r dolenni isod:
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae rheolaeth datgelu wedi'i gymhwyso i'r data. Mae'r holl ffigurau sy'n llai na 3 a chanrannau yn seiliedig ar ffigurau llai na 3 wedi'u celu. Mae ffigurau ar gyfer nifer y canlyniadau yn cael eu talgrynnu'n annibynnol i'r 3 agosaf. Mae gwerthoedd cyfraddau a chanrannau yn cael eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, a'u cyfrifo gan ddefnyddio union nifer y ffigurau canlyniadau.
Gan fod y ffigurau wedi’u talgrynnu, mae'n bosibl y bydd yn ymddangos bod anghysondeb rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a’r cyfanswm.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.tai@llyw.cymru