Nifer a chanran y plant 3 oed, wedi’u cofnodi ar gofrestr mewn ysgol a gynhelir yn CYBLD, sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws Dechrau’n Deg
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws CYBLD
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

9fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
Cyfnod amser dan sylw
Medi 2012 i Awst 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r set ddata hon yn darparu data ar nifer y plant Dechrau’n Deg sy’n dechrau’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir), sy’n mesur i ba raddau y mae plant Dechrau’n Deg yn manteisio ar gyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar. Cyflwynir data ar gyfer plant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg fesul awdurdod lleol.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Cyfrifo neu gasglu data

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddiwyd yn y datganiad ystadegol hwn yw’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae data ysgolion yn deillio o CYBLD a ffurflenni STATS 1 a gyflenwir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r data yn cael eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

I rai awdurdodau lleol mewn rhai blynyddoedd, roedd nifer y plant a gofnodwyd ar y CYBLD yn fwy na chyfanswm y plant a gofnodwyd ar y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, gan arwain at ganran o fwy na 100% sydd wedi cael ei addasu i 100%. Yr awdurdodau lleol a'r blynyddoedd yr effeithir arnynt yw:

  • 2012-13: Conwy, Sir Ddinbych, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf
  • 2013-14: Wrecsam
  • 2014-15: Gwynedd, Sir Ddinbych
  • 2015-16: Sir Ddinbych, Pen-y-bont ar Ogwr
  • 2016-17: Sir Ddinbych, Caerffili
  • 2017-18: Gwynedd, Sir Ddinbych, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili
  • 2018-19: Blaenau Gwent
  • 2019-20: Bro Morgannwg, Merthyr Tudful
  • 2020-21: Sir Ddinbych, Merthyr Tudful
  • 2021-22: Sir Ddinbych
  • 2022-23: Sir Ddinbych
  • 2023-24: Gwynedd
  • 2024-25: Sir Ddinbych, Wrecsam

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru