Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch, yn ôl y dyddiad dod i rym

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod amser
136 o 136 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
Cyfnod amserWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 136 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [c] = gwybodaeth gyfrinachol, [r] = diwygiedig.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataCyfnod amser
[c]Nifer o drafodiadauMawrth 2025-26
590 [r]Nifer o drafodiadau2025-26
20 [r]Nifer o drafodiadauCh4 2025-26
[c] [r]Nifer o drafodiadauChwefror 2025-26
20 [r]Nifer o drafodiadauIonawr 2025-26
140 [r]Nifer o drafodiadauCh3 2025-26
30 [r]Nifer o drafodiadauRhagfyr 2025-26
50 [r]Nifer o drafodiadauTachwedd 2025-26
60 [r]Nifer o drafodiadauHydref 2025-26
50 [r]Nifer o drafodiadauMedi 2025-26
200 [r]Nifer o drafodiadauCh2 2025-26
70 [r]Nifer o drafodiadauAwst 2025-26
70 [r]Nifer o drafodiadauGorffennaf 2025-26
80 [r]Nifer o drafodiadauMehefin 2025-26
230 [r]Nifer o drafodiadauCh1 2025-26
90 [r]Nifer o drafodiadauMai 2025-26
70 [r]Nifer o drafodiadauEbrill 2025-26
1,340 [r]Nifer o drafodiadau2024-25
260 [r]Nifer o drafodiadauCh4 2024-25
100 [r]Nifer o drafodiadauMawrth 2024-25
80 [r]Nifer o drafodiadauChwefror 2024-25
70 [r]Nifer o drafodiadauIonawr 2024-25
110 [r]Nifer o drafodiadauRhagfyr 2024-25
380 [r]Nifer o drafodiadauCh3 2024-25
130 [r]Nifer o drafodiadauTachwedd 2024-25
Yn dangos 1 i 25 o 272 rhes
Page 1 of 11

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:22 Mai 2026

Diweddariadau

30ain Ebrill 2026

Data newydd / diwygiedig

20ain Mawrth 2026

Data newydd / diwygiedig

20ain Chwefror 2026

Data newydd / diwygiedig

29ain Ionawr 2026

Data newydd / diwygiedig

19eg Rhagfyr 2025

Data misol newydd

21ain Tachwedd 2025
30ain Hydref 2025
29ain Medi 2025
29ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Awdurdod Cyllid Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni treth trafodiadau tir
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2018 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysiad TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn cau'r trydydd ddydd Llun o fis y cyhoeddiad.

Mae'r set ddata'n canolbwyntio ar drafodiadau preswyl sy’n gymwys i dderbyn ad-daliad cyfradd uwch ac mae'n cynnwys nifer y trafodiadau sy'n gymwys i dderbyn ad-daliad yn ogystal â gwerth cyfanredol yr ad-daliadau hynny, wedi'u dadansoddi yn ôl:

  • chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiad gwreiddiol i rym. Pan fydd rhan o chwarteri a blynyddoedd yn cael ei dangos, caiff y rhain eu nodi gyda'r ôl-ddodiad "hyd yn hyn".

Pan hawlir ad-daliad am drafodiad preswyl cyfraddau uwch, diwygir y trafodiad gwreiddiol i fod yn drafodiad preswyl prif gyfradd. Noder bod nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynir ar gyfer dyddiadau dod i rym diweddarach yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o’i gymharu â chyfnodau cynharach, nid oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio’u had-daliad.

Mae data ar yr amser a gymerir i hawlio ad-daliadau i'w weld yn y set ddata amgen sy'n cymharu chwarter y trafodiad gwreiddiol gyda’r chwarter y cymeradwyir yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r cofnodion unigol ar gyfer ad-daliadu cyfraddau uwch, sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.

Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidwyd y prif gyfraddau a bandiau preswyl o 10 Hydref 2022.

Newidwyd y gyfraddau uwch preswyl ar gyfer pob bandiau o 11 Rhagfyr 2024.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir

Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth

Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir

Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir

Newidiadau i gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 agosaf ar gyfer y trafodiadau sy’n gymwys am ad-daliad, ac i’r £0.1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth cyfanredol yr ad-daliadau.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Awdurdod Cyllid Cymru
E-bost cysylltu
data@acc.llyw.cymru