Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru yn ôl ethnigrwydd, cyfartaleddau tair blynedd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
66 o 66 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws NEET
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ethnigrwydd
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2027

Diweddariadau

28ain Hydref 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2007 i Mehefin 2026
ID y set ddata
dea38926-9d9c-43da-bcd7-652c32c93928

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn darparu data ar nifer a chyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn ôl ethnigrwydd, gan gynnwys cyfyngau hyder ar gyfer y cyfrannau, ar sail cyfartaledd treigl tair blynedd.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r tabl hwn yn darparu ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) sy'n deillio o ddata'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET yw'r gyfres flynyddol ddiffiniol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, sy'n defnyddio ystod o ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn caniatáu ar gyfer ystadegau mwy manwl ac amserol ar bobl ifanc sy'n NEET.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfres yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a'r gyfres flynyddol ddiffiniol ar bobl ifanc sy'n NEET, yn ogystal ag amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau ystadegau ar bobl ifanc sy'n NEET yng Nghymru.

Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth o gyfran y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n NEET, gan ymgorffori’r pwysoliadau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg. Nid yw'r amcangyfrif amrywiant yn cynnwys yr wybodaeth lawn o ran dyluniad yr arolwg fel haenu neu glystyru, ac felly dylid ystyried y cyfyngau hyder fel mesurau dangosol o ansicrwydd yn hytrach na chyfyngau hyder sydd wedi'u haddasu'n llawn i ddyluniad yr arolwg.

Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn yn cwmpasu cyfartaleddau tair blynedd o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth oherwydd bod maint y samplau yn fach. Gallai cyfansymiau Cymru fod yn wahanol i'r cyfansymiau a gyflwynir mewn tablau eraill ar ystadegau NEET yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, gan fod y rhai sydd ag ethnigrwydd anhysbys wedi'u heithrio o'r data yn y tabl hwn.

Mae'r arolwg yn gofyn i ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn – Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.

Ansawdd ystadegol

Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi mynd yn gynyddol anwadal yn y blynyddoedd diwethaf ac maent yn llai cadarn yn ystadegol nag amcangyfrifon y gyfres flynyddol ddiffiniol, gyda gwahaniaeth cynyddol rhwng y ddwy ffynhonnell ddata.

Yn flaenorol, roedd amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym meintiau’r samplau dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi cael ei ail-bwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi cytuno y dylid rhoi’r gorau i’r achrediad hwn dros dro, ac y dylid ail-ddynodi’r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol.

Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, ond dylid nodi'r ansicrwydd uwch ynghylch yr amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Dylai defnyddwyr ystyried y tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â’r tueddiadau a gyhoeddwyd yn y gyfres flynyddol ddiffiniol - Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET ar gyfer Cymru.

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff ffigurau eu talgrynnu i’r 100 agosaf ac felly efallai y bydd yna fân anghysondebau rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a’r cyfanswm.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru