Rheolaeth o wastraff trefol a chyfraddau ailddefnyddio/ailgylchu/compostio: chwarterol fesul awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Chwarter
72 o 72 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026

Diweddariadau

29ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffynhonnell y data
Waste Data Flow
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2007 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae gwastraff trefol awdurdodau lleol Cymru yn cynnwys deunydd o eiddo domestig a masnachol sy'n cael ei gasglu gan, neu ar ran y 22 awdurdod lleol. Mae'r set ddata yma yn cynnwys gwastraff a gasglwyd (gwastraff sy'n codi), maint y gwastraff a gafodd ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, a maint y gwastraff a losgwyd neu a anfonwyd i safle tirlenwi. Mae'r ffigyrau gwastraff a losgwyd wedi eu gwahanu rhwng gwastraff a losgwyd gydag adfer ynni a heb.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r wybodaeth ar y swm a'r math o wastraff a gesglir a sut mae'n cael ei waredu yn cael ei gasglu drwy'r system WasteDataFlow. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru adrodd gwybodaeth chwarterol ar wastraff trefol a gasglwyd, faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi a faint o wastraff trefol a anfonwyd i gyfleusterau eraill. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei gyflwyno gan awdurdodau lleol drwy WasteDataFlow. Adnoddau Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am ddilysu'r data hwn.

Ansawdd ystadegol

Mae'r data a gyhoeddir ar sail chwarterol yn ddata dros dro ac yn amodol ar ddiwygiadau hyd nes y mae ffigurau terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol wedi eu cyhoeddi. Gall fod rhai anghysondebau rhwng rhai o'r tablau gan fod rhai yn ymwneud â faint o wastraff a gynhyrchir / gesglir tra bod eraill yn cyfeirio at y swm a anfonir i'w drin. Gall hyn fod yn fater o amseru os, er enghraifft, bydd awdurdodau yn pentyrru gwastraff i'w drin nes ymlaen. Efallai hefyd y bydd rhai anghysondebau yn y mesur gan fod y gwastraff yn cael ei bwyso wrth gasglu ac eto pan mae'n cael ei anfon i gael triniaeth. Yn ogystal, efallai hefyd y bydd colli mewn pwysau drwy wahanol brosesau trin. Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn dilysu holl ffurflenni awdurdodau lleol ac yn gofyn bod rhaid i'r gwahaniaeth rhwng y swm a gasglwyd a'r swm a anfonir i gael triniaeth i beidio gwahaniaethu mwy na 10 y cant mewn unrhyw chwarter, oni bai y gellir rhoi esboniad dilys. Nid yw gwastraff trefol awdurdodau lleol yn cynnwys cerbydau sydd wedi eu gadael.

Mae'n bwysig nodi bod gwahaniaethau rhyng-dymhorol rhwng y data ar gyfer pob chwarter a phob awdurdod lleol. Gall y gwahaniaethau hyn fod oherwydd y ffaith bod rhai awdurdodau lleol yn cael tunelledd uwch yn Gorffennaf-Medi oherwydd mewnlifiad o dwristiaid. Mae'r ffigurau compostio fel arfer yn is yn chwarteri 3 a 4 sy'n ddyledus i symiau llai o wastraff gardd a gynhyrchir y tu allan i'r tymor tyfu. Ar wahanol adegau, mae awdurdodau lleol hefyd yn cyflwyno gwasanaethau newydd, er enghraifft casgliadau gwastraff bwyd, felly bydd y ffigurau compostio ar gyfer y chwarter perthnasol fod yn uwch na'r chwarter blaenorol. Wrth ystyried y ffactorau yma i gyd, mae angen cymryd rhywfaint o ofal pan yn gwneud cymariaethau rhwng chwarterau olynol a phob awdurdod lleol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru