Gwerth Ychwanegol Crynswth yn ôl cydran, ardal a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
26 o 26 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026

Diweddariadau

24ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Cyfrifon Rhanbarthol
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 1998 i Rhagfyr 2023

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) yn amcangyfrif o gyfanswm allbwn yr economi. Mae'r set ddata hon yn darparu dadansoddiad o GYC Cymru a'r DU o ran elfennau iawndal gweithwyr, anghysondebau ystadegol arall ac anghysondebau eraill, yn ôl ardal a blwyddyn.

  • "Iawndal Gweithwyr" - Mae hyn yn cynnwys taliadau a chyflogau a chyfraniadau cymdeithasol cyflogwyr.
  • "Arall" - Mae hyn yn cynnwys gwargedion gweithredu gros ac incwm cymysg. Mae'n cynnwys elfennau fel elw a gwarged cwmni, incwm o hunangyflogaeth ac incwm rhentu.
  • "Anghysondeb ystadegol" – dyma'r anghysondeb ystadegol rhwng cydrannau incwm a GYC cytbwys.

O dan System Cyfrifon Ewropeaidd 1995 (ESA95), mae'r term Gwerth Ychwanegol Gros yn cael ei ddefnyddio i ddynodi amcangyfrifon a arferai gael eu galw'n Gynnyrch Domestig Gros ar brisiau sylfaenol. O dan ESA95, mae'r term Cynnyrch Domestig Gros yn dynodi Gwerth Ychwanegol Gros gyda threthi (namyn cymorthdaliadau) ar gynhyrchion h.y. am brisiau'r farchnad. Mae Cyfrifon Rhanbarthol yn cyhoeddi ffigurau ar eu prisiau sylfaen ac felly wedi mabwysiadu'r term Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) yn hytrach na Chynnyrch Domestig Gros (CDG).

Cyfrifo neu gasglu data

Cyfrifir GYC (gwerth ychwanegol crynswth) Rhanbarthol ar sail prisiau sylfaenol cyfredol gan ddefnyddio'r dull cytbwys.

Ansawdd ystadegol

Mesurir Gwerth Ychwanegol Gros ar sail prisiau cyfredol, sy'n golygu bod cynnydd dros amser yn adlewyrchu chwyddiant yn ogystal â thwf go iawn. Ni ellir dadansoddi tueddiadau mewn cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros neu Werth Ychwanegol Gros y pen yn hawdd heb ddadchwyddo'r data. Ar gyfer dadansoddi tueddiadau mewn GYG, byddem yn cynghori defnyddio'r mesurau cyfaint cadwyn a gyhoeddwyd gan ONS (Saesneg yn unig).

Mae amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol ar brisiau sylfaenol a gyflwynwyd yma yn gyson â rhifyn 2024 o UK National Accounts - The Blue Book.

Gwybodaeth am ddiwygiadau:

Mae data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn dros dro ac mae data blynyddoedd blaenorol wedi cael eu hadolygu.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.economi@llyw.cymru