Rhestr ganolog ardrethi annomestig

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw'r Cwmni
56 o 56 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardrethi
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026

Diweddariadau

15fed Ebrill 2026

Mae data 2024-25 wedi'u hychwanegu.

18fed Chwefror 2026

Mae'r teitl wedi'i newid i gyd-fynd â'r meini prawf newydd.

14eg Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2017 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt yn aml fel ardrethi busnes, yn dreth leol y mae perchnogion neu feddianwyr (‘talwyr ardrethi’) eiddo annomestig yn cyfrannu'n ariannol at ddarparu gwasanaethau lleol drwyddi.

Mae'r mwyafrif o eiddo annomestig wedi'u cynnwys o fewn ffin awdurdod lleol, ac mae'r rhain yn ymddangos ar y rhestrau ardrethu lleol ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae’r awdurdodau lleol yn dyroddi biliau ac yn casglu ardrethi o bob eiddo ar eu rhestr eu hunain.

Mae nifer bach o eiddo ar y 'rhestr ganolog'. Mae'r rhain yn bennaf yn ddaliadau eiddo helaeth iawn gan ddiwydiannau sy'n rhychwantu sawl awdurdod lleol.

Rhoddir un gwerth ardrethol i bob cwmni neu grŵp o gwmnïau, ac mae'r refeniw a gesglir yn cael ei dalu'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

Mae'r tabl a gyhoeddwyd yn cynnwys yr holl eiddo ar y rhestr ganolog ar gyfer pob blwyddyn, ynghyd â gwerthoedd ardrethol, y symiau sy'n ddyledus, a'r symiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae refeniw'r Rhestr Ganolog yn cael ei dalu'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

Ansawdd ystadegol

Ceir gwybodaeth lawn am ansawdd y data ym mhob cyhoeddiad sy'n ymwneud â Chyllid Llywodraeth Leol yn yr adroddiad ansawdd ystadegol.

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff gwerthoedd ardrethol eu talgrynnu i'r bunt agosaf. Mae cyfanswm yr ardrethi a dderbynnir yn cael ei dalgrynnu i ddau le degol lle bo angen.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
localtaxationpolicy@llyw.cymru