Ceisiadau lesddaliadol Cymorth i Brynu Cymru: sydd wedi eu cwblhau yn ôl dyddiad

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
45 o 45 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026

Diweddariadau

5ed Mawrth 2026

Wedi'i ddiweddaru gan gynnwys dyddiad hyd at 31/12/2025 (3ydd Chwarter 2025-26)

11eg Rhagfyr 2025

2025-26 Q2

9fed Hydref 2025
2ail Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Data Cymorth i Brynu Cymru

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Cynllun benthyciadau ecwiti a rennir yw Cymorth i Brynu Cymru. Ei nod yw cefnogi pobl i ddod yn berchen ar gartref, ysgogi gweithgarwch adeiladu a rhoi hwb i'r sector tai a'r economi ehangach. Mae Cymorth i Brynu Cymru ar gael i bawb sy'n dymuno prynu cartref newydd (nid prynwyr cartref tro cyntaf yn unig) ond a allai fod yn wynebu rhwystrau wrth wneud hynny – er enghraifft, o ganlyniad i ofynion o ran blaendaliadau – ond y gellid disgwyl iddynt ad-dalu morgais fel arall. Ar 10 Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi hyd at £290 miliwn arall yn ail gam Cymorth i Brynu Cymru. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn anelu at gefnogi'r gwaith o adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi newydd eraill yng Nghymru erbyn 2021. Ar 18 Medi 2020 cyhoeddwyd y byddai'r cynllun Cymorth i Brynu yn parhau am flwyddyn arall tan fis Mawrth 2022 gyda'r posibilrwydd o barhau ymhellach tan fis Mawrth 2023. Cadarnhawyd yr estyniad pellach hwn mewn datganiad ysgrifenedig ar 24 Mawrth 2021. Ym mis Ebrill 2021, cyflwynodd trydydd cam y cynllun rai newidiadau gan gynnwys gostwng uchafswm y pris prynu i £250,000. Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai'r cynllun yng Nghymru yn parhau tan fis Mawrth 2025. Yn ogystal, bydd angen i bob cartref sy'n cael ei werthu drwy'r cynllun feddu ar sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o B o leiaf a bydd y cap ar brisiau prynu yn codi o £250,000 i £300,000. Ym mis Rhagfyr 2024 penderfynwyd ymestyn ymhellach y cynllun benthyciadau ecwiti a rennir Cymorth i Brynu Cymru tan fis Medi 2026.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data'n deillio o ddetholiad o drafodion o dan gynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, ac fe'i darperir i Lywodraeth Cymru gan Help to Buy Wales Ltd bob mis.

Mae data'n cael ei echdynnu o Client Relationship Management System (CRM) Help to Buy (Wales) Ltd. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ar y system ac yn cael ei mewnbynnu gan staff prosesu Help to Buy (Wales) Ltd. Mae'r holl wybodaeth a gedwir ar y CRM, mewn perthynas ag eiddo Cymorth i Brynu Cymru, yn cael ei darparu gan y prynwr neu ei gyfreithiwr/trawsgludwr fel rhan o'r Ffurflen Gwybodaeth Eiddo, Ffurflen Trawsgludwyr 1 neu Ffurflen Trawsgludwyr 2. I gael mwy o fanylion am y broses mae prynwyr yn mynd trwyddi, a'r dogfennau y mae'n ofynnol iddynt ei gwblhau er mwyn cael gafael ar fenthyciad rhannu ecwiti ewch i wefan y cynllun (gweler y dolenni gwe).

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.tai@llyw.cymru