Cleifion (oedolion a phlant) a gafodd eu trin mewn practisau deintyddol y GIG yng Nghymru yn ystod cyfnod o 24 mis, yn ôl bwrdd iechyd lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Mesur
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
24 mis yn diweddu
65 o 65 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Chwefror 2026

Diweddariadau

22ain Ebrill 2026

Data newydd wedi'i ychwanegu

5ed Mawrth 2026

Data newydd wedi'i ychwanegu

24ain Chwefror 2026

Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data

20ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data 1
Gwasanaethau deintyddol
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Cyfnod amser dan sylw
Rhagfyr 2009 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data ar gyfer cleifion sy'n cael eu trin (oedolion, plant, a phob claf) mewn cyfnod treigl o 24 mis.

Mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar gleifion sy’n cael eu trin gan ddeintyddion y GIG yng Nghymru (waeth beth fo’u gwlad breswyl).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Mae 'cleifion sy'n cael eu trin' yn cyfrif nifer y cleifion unigryw sydd wedi cael eu trin yn ystod y 24 mis diwethaf; Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif hyd yn oed os ydynt wedi derbyn sawl cyfnod o ofal dros y cyfnod.

Defnyddir cyfnod o 24 mis ar gyfer yr ystadegau hyn gan fod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod oedolion yn cael eu galw’n ôl i gael archwiliadau bob tri mis i 24 mis, yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn. Felly, wrth ddadansoddi oedolion sy'n cael eu trin, dylai'r prif fesur ystadegol fod yn seiliedig ar blant sy'n cael eu trin mewn cyfnod o 24 mis.

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn cyflwyno data sy'n seiliedig ar gyfnod o 24 mis. Dangosir data hefyd ar gyfer plant ar gyfer cyflawnrwydd ac mae hyn yn caniatáu mesur cyfanswm yr holl gleifion (oedolion + plant).

Cyfrifir canran y boblogaeth a gafodd eu trin ym mhob cyfnod o 24 mis a 12 mis gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a blwyddyn ariannol lawn 2020-21 ymlaen.

Mae’r newid i ffiniau byrddau iechyd wedi effeithio ar niferoedd y cleifion a driniwyd o fewn cyfnod o 24 mis, ar ôl i Ben-y-bont ar Ogwr symud i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill 2019. Mae’r set ddata yn cyfrif unigolion unigryw a ddefnyddiodd wasanaethau deintyddol yn y cyfnod o 24 mis. Pan fo unigolyn wedi defnyddio gwasanaethau deintyddol fwy nag unwaith yn y cyfnod o 24 mis yn yr un bwrdd iechyd, dim ond manylion y driniaeth ddiwethaf a fyddai’n cael eu cyfrif yn y set ddata er mwyn osgoi ei gyfrif ddwywaith. Serch hynny, gan fod data yn cael eu casglu dros gyfnod o 24 mis lle mae ffin bwrdd iechyd wedi newid, mae’n bosibl y caiff yr un unigolyn ei gyfrif ym mwrdd iechyd blaenorol Pen-y-bont ar Ogwr (Abertawe Bro Morgannwg) a’i fwrdd iechyd newydd (Cwm Taf Morgannwg neu Fae Abertawe) gan ddibynnu ar ddyddiad y driniaeth ddiwethaf. Er enghraifft, os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror 2019 ac eto ym mis Mai 2019, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019 ond data Cwm Taf Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. Ac os cafodd claf ei drin ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2019 ac nid yw wedi mynd at ddeintydd ers hynny, bydd yn cael ei gyfrif yn nata Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer rhestr mis Mawrth 2019, a data Bae Abertawe ar gyfer rhestr mis Mehefin 2019 ymlaen. I roi ffigur sy’n adlewyrchu’r sefyllfa yn well ar gyfer canran y cleifion a driniwyd (cyfanswm, oedolion a phlant), mae amcangyfrifon o boblogaeth y byrddau iechyd newydd wedi’u creu gan ddefnyddio data ychwanegol cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl 1 Ebrill 2019 (ffynhonnell: Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG). Er enghraifft, o blith y cleifion a driniwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae data ar gyfer Gorffennaf-Medi 2019 yn dangos y cafodd 56% driniaeth ar ôl 1 Ebrill 2019 yng Nghwm Taf Morgannwg. Felly, ar gyfer y 24 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2019, dyma’r amcangyfrifon o’r enwadur ar gyfer y byrddau iechyd newydd: Poblogaeth gymwys Bae Abertawe = Abertawe + Castell-nedd Port Talbot + ((0.44) * Pen-y-bont ar Ogwr) Poblogaeth gymwys Cwm Taf Morgannwg = Rhondda Cynon Taf + Merthyr Tudful + ((0.56) * Pen-y-bont ar Ogwr)

Data ar gyfer y cyfnod o 24 mis a ddaw i ben ym mis Ebrill 2021 fydd y cyfnod amser cyntaf na fydd y newid i’r ffiniau yn effeithio ar ei ddata. Cynghorir gofal wrth ddefnyddio’r data ar gyfer y cyfnodau amser sy’n cwmpasu’r newid i ffiniau’r byrddau iechyd.

Ansawdd ystadegol

Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru