Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes diogelwch cymunedol

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Cod ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablCyfradd fesul 100Ni ellir newid y gwerth
Cod ardalWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 1939 gwerthNewid gwerthoedd
Enw ardalWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 1939 gwerthNewid gwerthoedd
DangosyddWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 9 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [c] = gwybodaeth gyfrinachol, [x] = ddim ar gael.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataCod ardalEnw ardalDangosydd
1.07Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchTrais gydag anaf a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.75Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchTroseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.86Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchDifrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
1.20Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchTrais heb anaf a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
1.22Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchStelcio ac aflonyddu a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
1.78Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchYmddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.41Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchAchosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.37Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchBwrgleriaethau a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.31Cyfradd fesul 100W01000003Porth AmlwchAchosion o dân fesul poblogaeth mewn perygl
0.40Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigTrais gydag anaf a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
[c]Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigTroseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.36Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigDifrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.61Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigTrais heb anaf a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.82Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigStelcio ac aflonyddu a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.89Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigYmddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
[c]Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigAchosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
[c]Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigBwrgleriaethau a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.39Cyfradd fesul 100W01000004Amlwch WledigAchosion o dân fesul poblogaeth mewn perygl
0.70Cyfradd fesul 100W01000005BiwmaresTrais gydag anaf a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.77Cyfradd fesul 100W01000005BiwmaresTroseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.90Cyfradd fesul 100W01000005BiwmaresDifrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
1.21Cyfradd fesul 100W01000005BiwmaresTrais heb anaf a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
1.11Cyfradd fesul 100W01000005BiwmaresStelcio ac aflonyddu a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.90Cyfradd fesul 100W01000005BiwmaresYmddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
0.56Cyfradd fesul 100W01000005BiwmaresAchosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu fesul poblogaeth mewn perygl
Yn dangos 1 i 25 o 17,451 rhes
Page 1 of 699

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

9fed Chwefror 2026

Newidiadau fformatio bach

6ed Chwefror 2026

Newidiadau fformatio bach

22ain Ionawr 2026

Newidiadau fformatio bach

16eg Rhagfyr 2025

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI.

27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Weinyddiaeth Gyfiawnder
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Swyddfa Gartref
Ffynhonnell y data 2
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bychain (SAPE)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n pennu safle pob un o'r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is o'r mwyaf (safle 1) i'r lleiaf (safle 1,917) difreintiedig. Mae'n cyfuno 54 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (20%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (9%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae MALlC yn cynhyrchu safleoedd maes a mynegai cyffredinol i nodi ardaloedd gyda'r crynodiadau uchaf o sawl math o amddifadedd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwerthoedd dangosydd, rhai gwerthoedd is-ddangosydd a rhai safleoedd is-faes hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Gweler yr adroddiad canllawiau ac adroddiad technegol MALlC am ragor o wybodaeth.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 9 dangosydd sy'n ffurfio'r maes diogelwch cymunedol. Mae’r holl ddangosyddion wedi cael eu talgrynnu i 2 le degol.

Mae'r data yn y tabl hwn yn seiliedig ar ddata gweinyddol.

Ataliwyd data y dangosydd os oedd llai na 5 achos.

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n profi amddifadedd sy'n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae'n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Rhifiaduron y maes yw nifer gyfartalog yr achosion dros 6 blwyddyn ariannol Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019 (2018-19) i 2023-24 ar gyfer y categorïau canlynol o droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu:

  • trais gydag anaf
  • trais heb anaf
  • troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
  • stelcio ac aflonyddu
  • difrod troseddol
  • bwrgleriaeth
  • dwyn

Y rhifiadur ar gyfer y dangosydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r nifer cyfartalog o achosion a gofnodwyd dros y ddwy flwyddyn ariannol (2022-23 a 2023-24).

Y rhifiadur ar gyfer y dangosydd achosion o dân yw'r nifer cyfartalog o danau yr aethpwyd atynt dros y tair blwyddyn ariannol (2021-22 i 2023-24).

Yr enwadur ar gyfer dangosyddion troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu (ac eithrio bwrgleriaeth a gofnodwyd gan yr heddlu) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yw cyfanswm y boblogaeth breswyl ynghyd ag amcangyfrif o'r boblogaeth gweithle amhreswyl.

Yr enwadur ar gyfer bwrgleriaeth a gofnodwyd gan yr heddlu yw anheddau preswyl ar lefel ACEHI o Gyfrifiad 2021 ynghyd ag eiddo amhreswyl ar lefel ACEHI o Gronfa Gyfeiriadau'r Arolwg Ordnans.

Yr enwadur ar gyfer digwyddiadau tân yw cyfanswm y boblogaeth breswyl heb gynnwys poblogaeth carchardai.

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2025 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2025 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 54 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Cafodd data ar droseddau a gofnodwyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol eu casglu a’u prosesu gan deprivation.org ar ein rhan gan ddefnyddio dull a oedd yn gyson â mynegeion amddifadedd 2025 Lloegr. Ceir rhagor o fanylion am y fethodoleg yn adroddiad technegol mynegeion amddifadedd 2025 Lloegr (y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol).

Mae’r maes hwn yn defnyddio microddata wedi’u geogodio ar droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ddaw o Hwb Data’r Swyddfa Gartref, data crai Police.uk, a darnau o wybodaeth bwrpasol gan heddluoedd. Yn wahanol i ddata cyhoeddus wedi’u hanonymeiddio, mae’r setiau data hyn yn cynnwys manylion lleoliad llawn, sy’n ei gwneud yn bosibl i fapio’n fanwl gywir. Oherwydd sensitifrwydd y data, cafodd yr holl ddata eu prosesu yn amgylcheddau diogel yr heddlu o dan gytundebau Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu.

Cafodd cofnodion unigol o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol eu cyfuno i ACEHIau gan ddefnyddio adnodd mapio pwrpasol. Cafodd troseddau o fewn 10 metr i ffiniau eu dosrannu rhwng ACEHIau cyfagos, gan ddisodli’r ardal glustogi flaenorol o 100m a ddefnyddiwyd yn 2019 er mwyn adlewyrchu mwy o gywirdeb o ganlyniad i geogodio.

Roedd prosesau sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau yn erbyn ystadegau cyfun yr heddlu a chael gwared ar anghysondebau, megis cofnodion y tu allan i ffiniau heddlu. Cyfyngwyd cyfrifon i gyfansymiau Ardaloedd Heddluoedd er mwyn ymdrin â chofnodion heb eu mapio ac osgoi achosion o ystumio o ganlyniad i droseddau a gafodd eu geogodio i safleoedd yr heddlu.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru