Plant 2 oed a gafodd gynnig a sy’n mynychu ar ofal plant a ariennir (a elwid yn flaenorol yn ofal plant Dechrau’n Deg Cam 2 a Cham 3), yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2027

Diweddariadau

4ydd Tachwedd 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Gwybodaeth rheoli Dechrau'n Deg
ID y set ddata
d92f4ff1-ef28-4756-9556-18c86b7eac8d

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data hwn yn crynhoi nifer y plant 2 oed sydd wedi cael cynnig ac sy'n mynychu gofal plant a ariennir yng Nghymru, yn ôl awdurdod lleol. Bydd y set ddata hon yn cael ei diweddaru bob tymor.

Mae ffigurau tymhorol yn cyfuno data ar yr hyn a elwid gynt yn “Gam 2” a “Cham 3” o raglen ehangu Dechrau'n Deg. Bydd ffigurau ar gyfer pob plentyn 2 oed sydd wedi cael cynnig gofal plant ac sy'n manteisio arno ar gael unwaith y bydd data ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan wedi'u casglu.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth reoli a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru o'r awdurdodau lleol i fonitro cynnydd gofal plant a ariennir ar gyfer plant 2 oed ym mhob awdurdod lleol.

Mae'r ystadegau hyn yn ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Rydym yn ceisio mireinio a gwella'r casgliad hwn o ddata wrth symud ymlaen. Dyma'r amcangyfrif gorau sydd gennym ar hyn o bryd o nifer y lleoedd gofal plant a gynigiwyd ac a fynychwyd ar gyfer plant 2 oed mewn ardaloedd a gwmpesir gan ehangu Dechrau'n Deg yng Nghymru.

Ansawdd ystadegol

Nid yw hyd tymor yn unffurf, ac felly ni ddylid cymharu gwahanol dymhorau.

Ystyrir data tymhorol yn ddata dros dro nes bod data ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan ar gael.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru