Tystysgrifau Nam ar y Golwg (CVI) WGOS 3 a roddwyd yn ôl lleoliad y gwasanaeth a man preswyl y claf

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Bwrdd Iechyd gwasanaeth
12 o 12 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd Iechyd cleifion
12 o 12 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027

Diweddariadau

8fed Hydref 2026

Ychwanegwyd data newydd ar gyfer 2025-26 (bydd data ar gyfer preswylwyr Cymru a gafodd eu hardystio yn Lloegr ar gael yn y cyhoeddiad nesaf.). Mae data 2024-25 hefyd wedi'i ddiweddaru i gynnwys trigolion Cymru a ardystiwyd yn Lloegr.

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Cronfa ddata ar gyfer data epidemiolegol ar Dystysgrifau Nam ar y Golwg (DEVICE)
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2023 i Mawrth 2026
ID y set ddata
d8841a73-73c4-40df-989f-e85060dc95e9

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer y tystysgrifau amhariad ar y golwg (CVI) yn ôl man preswylio'r claf a'r bwrdd iechyd ar gyfer lleoliad y gwasanaeth yng Nghymru, ochr yn ochr â chyfanswm ar gyfer Lloegr. Mae'n tynnu sylw at lifau dros y ffin lle mae cleifion yn byw mewn un ardal ond yn cael eu hardystio mewn ardal arall. Mae'r data wedi'u dadansoddi yn ôl bwrdd iechyd y claf a bwrdd iechyd y gwasanaeth yng Nghymru, gyda Lloegr wedi'i chynnwys fel un cyfanswm.

Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i batrymau symud cleifion ar gyfer gwasanaethau ardystio ar draws byrddau iechyd Cymru, a rhwng Cymru a Lloegr dros amser.

Cyfrifo neu gasglu data

Caiff data ar gyfer yr holl wasanaethau ardystio a ddarperir yng Nghymru eu darparu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG, tra caiff data ar gyfer preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr eu darparu gan Ysbyty Moorfields.

Caiff ardystiadau amhariad ar y golwg eu grwpio yn ôl blwyddyn ariannol, bwrdd iechyd lleoliad y gwasanaeth, a bwrdd iechyd man preswylio'r claf. Mae byrddau iechyd y claf a'r gwasanaeth yng Nghymru yn cael eu nodi gan ddefnyddio codau safonol, gyda Lloegr yn cael ei chynrychioli fel un categori. Cyfrifir y niferoedd ar gyfer pob cyfuniad.

Ansawdd ystadegol

Mae'r data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn eithrio preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr. Mae hyn oherwydd bod y data hyn yn cael eu darparu gan Ysbyty Llygaid Moorfields yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac felly, bydd y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn cael eu diweddaru i gynnwys preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr yn y cyhoeddiad nesaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru