Cydrannau newid poblogaeth amcanestyniadau poblogaeth sy'n seiliedig ar 2018 yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Amrywiolyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Newid blynyddol
25 o 25 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cydran newid poblogaeth
12 o 12 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

17eg Gorffennaf 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 1
Amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
ID y set ddata
d7aa0731-b341-4628-8bfb-66929a424e71

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn darparu'r cydrannau newid sy'n rhan o gyfrifo'r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r data'n cwmpasu'r newid rhwng pob blwyddyn amcanestyniad olynol ac yn ymwneud â'r newid o ganol pob blwyddyn i ganol y flwyddyn ganlynol. Mae data'r flwyddyn gyntaf yn cynrychioli'r newid o'r flwyddyn sylfaen o ganol 2018 i ganol 2019, trwy gyfnod yr amcanestyniad i ddangos y newid ar gyfer canol 2042 i ganol 2043.

Dim ond ar gyfer y prif amcanestyniad y cyhoeddir y cydrannau newid.

Cyfrifo neu gasglu data

Cynhyrchir yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru.

Mae’r amcanestyniadau poblogaeth sy’n seiliedig ar 2018 yn darparu ystadegau ynglŷn â maint a strwythur oedran posibl poblogaeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r amcanestyniadau hyn wedi eu disodli gan yr amcanestyniadau poblogaeth sail-2022, sy’n seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth mwy diweddar a thueddiadau demograffig hyd at ganol 2022.

Datblygwyd y fethodoleg ar y cyd â grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP). Mae aelodau WaSP yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, Data Cymru a Llywodraeth Cymru.

Nid yw'r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol hyn wedi'u cyfyngu i amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). Mae hyn yn golygu nad yw cyfanswm amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn cyfateb i’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Dylai defnyddwyr sydd â diddordeb mewn amcanestyniadau poblogaeth ar lefel Cymru ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y SYG.

Gall amcanestyniadau poblogaeth fod yn wahanol i amcangyfrifon poblogaeth sydd eisoes wedi eu cyhoeddi nawr ac yn y dyfodol agos. Rydym yn argymell defnyddio'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf ar gyfer pob blwyddyn lle maent ar gael.

Mae’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2018 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r holl amcanestyniadau yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio.

Cafodd yr amcanestyniadau hyn eu creu gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth oedd ar gael ar y pryd, ac nid ydynt wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r amcangyfrifon poblogaeth a ail-sylfaenwyd yn sgil Cyfrifiad 2021. Dylai defnyddwyr felly gyfeirio at yr amcanestyniadau ac amcangyfrifon poblogaeth mwy diweddar lle bo’r rhain ar gael.

Ansawdd ystadegol

Gweler y datganiad ystadegol o amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol trwy ddilyn y dolenni gwe.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru