Nifer y meddygon teulu a gyflogir mewn practisau cyffredinol (cyfrif pennau), 1969 i 2018
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 11eg Rhagfyr 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Digidol GIG
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn cynnwys gwybodaeth am nifer y Meddygon Teulu, y Cofrestryddion a'r Ymarferwyr Wrth Gefn.
- Cyfrifo neu gasglu data
Darperir y data gan Digidol GIG, sy'n casglu data ar gyfer Cymru gan ddefnyddio cronfa ddata Exeter. Y gronfa ddata hon yw system dalu gyfrifiadurol Meddygon Teulu sydd mewn contract gyda Byrddau Iechyd Lleol. Cymerwyd y data hanesyddol o gofnodion papur.
Yn dilyn cyflwyno cytundeb meddygon teulu newydd yn 2004, daeth y categori ymarferydd anghyfyngedig i ben. Disodlodd Pob Ymarferydd (ac eithrio cofrestryddion mewn Practis Cyffredinol, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a staff locwm) y rhai a ddangoswyd ar wahân yn flaenorol fel ymarferwyr anghyfyngedig, ymarferwyr cyfyngedig, cynorthwywyr a meddygon cyflogedig.
Cofrestryddion mewn Practis Cyffredinol: Ymarferydd sy'n cael ei gyflogi at ddibenion hyfforddi mewn ymarfer cyffredinol ac y telir grant hyfforddiant ar ei gyfer/chyfer.Yn y datganiad hwn mae Cofrestrydd mewn Practis Cyffredinol naill ai yn eu hail neu trydedd flwyddyn ac felly nid ydynt i gyd yn yr un garfan.
Ymarferywyr Cyffredinol Wrth Gefn: Ymarferywyr Cyffredinol Ymarferydd sy'n darparu sesiynau gwasanaeth mewn practis cyffredinol. Mae'n cynnal y sesiynau fel cynorthwy-ydd a gyflogir gan y practis a chaiff weithio hyd at 4 sesiwn bob wythnos.
Dechreuodd y 7 Bwrdd Iechyd Lleol weithredu yn lle'r 22 Bwrdd Iechyd Lleol blaenorol ar 1 Hydref 2009. Er ei bod wedi bod yn bosibl dangos rhywfaint o ddata am y blynyddoedd cyn hynny fesul Bwrdd Iechyd Lleol nid yw wedi bod yn bosibl dangos data ar gyfer pob blwyddyn.
- Ansawdd ystadegol
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru