Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru yn ôl statws anabledd, cyfartaleddau tair blynedd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2027
Diweddariadau
- 28ain Hydref 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2013 i Mehefin 2026
- ID y set ddata
- d696e318-57e2-497f-b855-0b90f224bd8c
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn darparu data ar nifer a chyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn ôl statws anabledd a grŵp oedran, gan gynnwys cyfyngau hyder ar gyfer y cyfrannau, ar sail cyfartaledd treigl tair blynedd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r tabl hwn yn darparu ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) sy'n deillio o ddata'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET yw'r gyfres flynyddol ddiffiniol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, sy'n defnyddio ystod o ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn caniatáu ar gyfer ystadegau mwy manwl ac amserol ar bobl ifanc sy'n NEET.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyfres yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a'r gyfres flynyddol ddiffiniol ar bobl ifanc sy'n NEET, yn ogystal ag amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau ystadegau ar bobl ifanc sy'n NEET yng Nghymru.
Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth o gyfran y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n NEET, gan ymgorffori’r pwysoliadau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg. Nid yw'r amcangyfrif amrywiant yn cynnwys yr wybodaeth lawn o ran dyluniad yr arolwg fel haenu neu glystyru, ac felly dylid ystyried y cyfyngau hyder fel mesurau dangosol o ansicrwydd yn hytrach na chyfyngau hyder sydd wedi'u haddasu'n llawn i ddyluniad yr arolwg.
Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn yn cwmpasu cyfartaleddau tair blynedd o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth oherwydd bod maint y samplau yn fach. Gall cyfansymiau Cymru fod yn wahanol i'r cyfansymiau a gyflwynir mewn tablau eraill ar ystadegau NEET yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, gan fod y rhai sydd â statws anabledd anhysbys wedi'u heithrio o'r data yn y tabl hwn.
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn casglu data drwy ddefnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”).
- Ansawdd ystadegol
Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi mynd yn gynyddol anwadal yn y blynyddoedd diwethaf ac maent yn llai cadarn yn ystadegol nag amcangyfrifon y gyfres flynyddol ddiffiniol, gyda gwahaniaeth cynyddol rhwng y ddwy ffynhonnell ddata.
Yn flaenorol, roedd amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym meintiau’r samplau dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi cael ei ail-bwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi cytuno y dylid rhoi’r gorau i’r achrediad hwn dros dro, ac y dylid ail-ddynodi’r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol.
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, ond dylid nodi'r ansicrwydd uwch ynghylch yr amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Dylai defnyddwyr ystyried y tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â’r tueddiadau a gyhoeddwyd yn y gyfres flynyddol ddiffiniol - Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET ar gyfer Cymru.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Caiff ffigurau eu talgrynnu i’r 100 agosaf ac felly efallai y bydd yna fân anghysondebau rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a’r cyfanswm.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru