Data gweithlu yn ôl rhif perfformiwr, grŵp oedran, math o gontract, rhyw y perfformiwr a math o ddeintydd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oedran
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o Gontract
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o staff deintyddol
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
15 o 15 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Area
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

20ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau deintyddol
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2010 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae ystadegau’r gweithlu deintyddol yn cyfeirio at gyfanswm deintyddion neu broffesiynolion gofal deintyddol a oedd yn brif ymarferwyr cwrs o driniaeth y GIG rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn, fel y’u cofnodwyd ar ffurflenni FP17W.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae proffesiynolion gofal deintyddol yn staff sy’n cael eu cyflogi mewn rolau nad ydynt yn ddeintyddion sydd wedi’u cofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, fel hylenwyr, therapyddion deintyddol a nyrsys deintyddol. Dim ond pan oeddent yn brif ymarferwyr cwrs o driniaeth y cyfrifir staff yn y rolau hyn. Ni chânt eu cyfrif pan fyddant yn cynorthwyo deintydd i roi triniaeth.

Ffigur cyfrif pennau yw’r ystadegau hyn; nid oes data cyfwerth ag amser llawn ar gael ar hyn o bryd.

Mae data rhwng 2019-20 a 2023-24 wedi’u diwygio gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn dilyn cynnwys ffurflenni FP17W a gyflwynwyd yn hwyr. Mae hyn wedi arwain at gynnydd ymylol i’r ffigur cyfrif pennau yng Nghymru, o ddim mwy na dau mewn unrhyw flwyddyn.

Gweithredwyd methodoleg wahanol ar gyfer pennu trefniadau gwaith (h.y. math o ddeintydd) deintyddion ar gyfer 2018-19 ymlaen. Arweiniodd y newid yn y fethodoleg at ailddosbarthu nifer fawr o ddeintyddion fel darparwyr-perfformwyr a gostyngiad canlyniadol yn niferoedd y deintyddion cyswllt (perfformwyr-yn-unig) ar gyfer data 2018-19 a 2019-20, gan nodi toriad mawr yn y gyfres amser. Ni effeithiwyd ar gyfanswm nifer y deintyddion ond dylid bod yn ofalus wrth wneud unrhyw gymhariaeth â math o ddeintydd mewn data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2017-18 a chyn hynny. Waeth beth fo'r newid hwn, nid yw'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer deintyddion Darparwyr-yn-unig gan nad oes gweithgaredd GIG wedi'i gofnodi yn eu herbyn.

O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.

Ansawdd ystadegol

Dim ond ar gyfer 2024-25 ymlaen y gwyddys nifer y proffesiynolion gofal deintyddol a oedd yn brif ymarferwyr cwrs o driniaeth.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru