Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol: nifer yr ymgynghoriadau a ddarperir drwy wasanaethau blaenoriaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 12fed Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau Presgripsiwn
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2012 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Er bod llawer o fferyllfeydd yn cynnig gwasanaethau clinigol amrywiol ers blynyddoedd lawer, rhoddwyd gwasanaeth clinigol systematig newydd ar waith ledled Cymru ym mis Ebrill 2022. Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi gwasanaethau i gael eu darparu’n gyson ledled Cymru, ar draws tri gwasanaeth blaenoriaeth sef anhwylderau cyffredin, dulliau atal cenhedlu brys a chyflenwi meddyginiaethau brys. Gall pob fferyllfa ddarparu’r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol yn amodol ar fodloni safonau penodedig mewn perthynas â safleoedd a hyfforddiant. Rhaid darparu’r tri gwasanaeth, neu raid i fferyllfeydd optio allan o’r gwasanaeth yn gyfan gwbl.
Ar 1 Medi 2024, tynnwyd y ddarpariaeth brechiadau ffliw tymhorol o’r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol a’i chomisiynu ar wahân fel Gwasanaeth Clinigol Cenedlaethol a Gyfarwyddir. Adroddir ar ystadegau ynglŷn â hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei Adroddiad Blynyddol - Ffliw Tymhorol yng Nghymru 2024/25 (Saesneg yn unig). Mae’r data yn dangos nifer y ffurflenni hawlio a wnaed gan fferyllfeydd sy’n darparu’r gwasanaethau ym mhob blwyddyn ariannol, yn seiliedig ar ddyddiad yr ymgynghoriad.
- Cyfrifo neu gasglu data
Data a ddarparwyd gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth).
- Ansawdd ystadegol
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru