Nifer yr eitemau sylfaenol ar gyfer triniaethau corfforol yn ôl band triniaeth a math o gleifion
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026
Diweddariadau
- 5ed Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau deintyddol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2019 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data hwn yn dangos nifer yr eitemau sylfaenol ar gyfer triniaethau corfforol mewn cwrs o driniaeth. Er enghraifft, gallai cwrs o driniaeth â radiograff gynnwys deg radiograff unigol (byddai'r olaf yn cael ei ddangos yn y data hwn).
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Mae'r eitemau data clinigol yn y ffurflen FP17W yn cynnwys triniaethau corfforol yn ogystal â chyngor ataliol ac eitemau a roddir ar bresgripsiwn. Er enghraifft, gallai un cwrs o driniaeth gynnwys gweithgarwch deintyddol clinigol fel llenwad parhaol, cyngor ar frwsio dannedd, a phresgripsiwn am wrthfiotig.
Weithiau gwneir newidiadau i'r rhan data clinigol o'r ffurflen FP17W. Fel arfer, caiff eitemau setiau data clinigol blaenorol eu dirwyn i ben yn raddol ac ychwanegir eitemau newydd; bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data dros amser.
Mae'r data hwn yn disodli ciwbiau blaenorol StatsCymru yn ymwneud â gweithgarwch clinigol. Roedd data mewn ciwbiau StatsCymru blaenorol yn seiliedig ar fandiau triniaeth 1 i 3 a brys yn unig; mae'r data hwn yn cynnwys pob band triniaeth.
- Ansawdd ystadegol
Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru