Anafusion tân yn ôl cymhelliad, lleoliad, difrifoldeb, blwyddyn ariannol, ac awdurdod tân ac achub
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 6ed Hydref 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraethau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Platfform Data Tân ac Achub
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2009 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- ce8f7afa-45a2-4c1b-993b-791b7a981d55
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r tabl yn dangos nifer yr anafusion (gan gynnwys nifer y marwolaethau) yn sgil tanau, yn ôl difrifoldeb, natur yr anafiadau, awdurdod tân ac achub a blwyddyn ariannol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae anafusion angheuol yn cynnwys marwolaethau a gofnodwyd fel rhai a oedd “yn gysylltiedig â thân” ond caiff marwolaethau sydd wedi’u nodi yn rhai “nad ydynt yn gysylltiedig â thân” eu heithrio. Mae’r rhai lle’r oedd rôl y tân o ran y farwolaeth yn “anhysbys” wedi’u cynnwys yn y categori “yn gysylltiedig â thân”. Marwolaethau sy’n gysylltiedig â thân yw’r rhai na fyddai wedi digwydd fel arall pe na bai tân wedi bod.
Mae anafusion nad oeddent yn angheuol yn cynnwys y rhai a oedd “yn gysylltiedig â thân” a’r holl anafusion eraill.
Mae “annedd arall” yn cynnwys “cwch preswyl”, “adeilad ag anheddau lluosog”, “palas brenhinol”, “plasdy”, a “castell”, yn ogystal â digwyddiadau a gofnodir gan ddefnyddio’r categori “annedd arall”.
Gan ddechrau yn y flwyddyn ariannol 2025-26, mae data wedi’u hechdynnu o’r Platfform Data Tân ac Achub (FaRDaP) a weinyddir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Rhwng 2009-10 a 2024-25, echdynnwyd data o’r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS).
- Ansawdd ystadegol
Mae FaRDaP (a’r IRS cyn hynny) yn system fyw ac felly mae’n bosibl na fydd data a echdynnwyd ar adeg wahanol yn cyfateb i’r ffigurau yn y tabl hwn. Adolygir y data bob blwyddyn, ac mae’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf wedi’u marcio fel data dros dro.
Gweler yr Adroddiad Ansawdd am ragor o wybodaeth.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru