Amcangyfrifon aelwydydd yn ôl awdurdod lleol a math o aelwyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Tachwedd 2026
Diweddariadau
- 28ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 1
- Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
- Darparwr data 2
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 2
- Cyfrifiad 2001
- Darparwr data 3
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 3
- Cyfrifiad 2011
- Darparwr data 4
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 4
- Cyfrifiad 2021
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru. Mae amcangyfrifon aelwydydd yn darparu amcangyfrif nifer yr aelwydydd gan ddefnyddio cyfraddau aelodaeth aelwydydd o'r cyfrifiadau diweddaraf a'u cymhwyso i amcangyfrifon poblogaeth cyfredol, sy'n seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer canol 2024.
Mae'r set ddata yn cynnwys amcangyfrifon o niferoedd aelwydydd ar gyfer pob canol blwyddyn ac ardal. Mae math o aelwyd yn disgrifio'r cyfansoddiad, fel nifer y bobl a phresenoldeb plant.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cynhyrchir yr amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru. Datblygwyd y fethodoleg ar y cyd â grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP). Mae aelodau WaSP yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, Data Cymru a Llywodraeth Cymru.
- Ansawdd ystadegol
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ansawdd yr ystadegau, gweler y datganiad ystadegol sydd yn yr 'Adroddiadau cysylltiedig'. Mae'r datganiad hwn yn egluro'r dulliau, y rhagdybiaethau ac unrhyw gyfyngiadau.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r amcangyfrifon aelwydydd ac amcangyfrifon poblogaeth aelwydydd wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru