Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, staff meddygol a deintyddol yn ôl arbenigedd a gradd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2026
Diweddariadau
- 12fed Chwefror 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.
- 6ed Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Gwasanaethau’r Gweithlu
- Darparwr data 2
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Cofnod staff electronig y GIG
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Cyfrif aseiniad a chyfwerth ag amser llawn o staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol yn ôl gradd a maes gwaith. Mae Ymarferwyr Meddygol a Deintyddol Cyffredinol yn cael eu hepgor gan eu bod yn gontractwyr annibynnol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Wedi'i echdynnu o system Cofnod Staff Electronig y GIG. Mae grwpiau staff a meysydd gwaith yn cael eu pennu o godau galwedigaethol y GIG - i gael mwy o fanylion, dilynwch y ddolen i'r llawlyfr.
O 2015 ymlaen, daeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (‘NWSSP’) yn y prif gyflogwr ar gyfer Ymarfer Cyffredinol (Meddygon sy’n Hyfforddi yn unig). Yn flaenorol, cyflogwyd gan y feddygfa pan oeddynt yn cylchdroi i mewn i’r feddygfa ac oeddynt felly yn gadael cyflogres GIG Cymru. Ond nawr mae’r Bartneriaeth Cydwasanaethau’n cadw cyflogaeth barhaus ohonynt a dangosir yn y ffigurau yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, sy'n cynnal y Bartneriaeth Cydwasanaethau. Yn ogystal â hwn, cofnodir hyfforddeion Meddyg Teulu sydd yn cylchdroi’n ysbytai o dan arbenigedd eu rôl bresennol yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Felindre o 2015 tan 31 Mawrth 2021, ac o dan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru o 1 Ebrill 2021. O'r blaen roedd yr hyfforddeion hyn yn cael eu cofnodi yn erbyn y bwrdd iechyd lleol a gynhaliodd. O ganlyniad mae’r nifer a gofnodwyd yn erbyn y byrddau iechyd lleol yn yr arbenigeddau perthnasol wedi gostwng.
- Ansawdd ystadegol
Gweler adroddiad ansawdd – dolen yn dolenni'r we
Cafodd y data a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer pob sefydliad ar 30 Gorffennaf 2025, ar gyfer dyddiad cyfeirio 31 Mawrth 2025, ei ddiwygio ar 02 Hydref 2025 ar ôl darganfod gwall yn y data ffynhonnell. Cafodd data ar gyfer yr un cyfnod ei adolygu ar 6 Tachwedd 2025 ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar ôl darganfod gwall prosesu a arweiniodd at nodi bod holl staff y sefydliadau hyn yn staff Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG. Nid oedd effaith ar unrhyw un sefydliad arall nac ar y data ar lefel Cymru.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi'u talgrynnu i 1 lle degol.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru