Atgyfeiriadau golwg gwan WGOS 3
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Diweddariad data ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26
- 30ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cerdyn Cofnodi Asesiad Golwg Gwan
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2013 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- c42bf771-54a3-4dcf-8ba8-f2f59f94a5ac
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos atgyfeiriadau cleifion newydd i wasanaethau golwg gwan, a chan y gwasanaethau hynny yng Nghymru. Mae Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 3 yn galluogi cleifion, a fyddai'n elwa ar gymhorthion optegol ac anoptegol, yn ogystal â chymorth a chyngor adsefydlu cyfannol (gan gynnwys cofrestru amhariad ar eu golwg), i gael mynediad at wasanaeth golwg gwan yn eu man preswylio neu'n agos ato.
Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl ffynhonnell atgyfeirio neu gyrchfan a blwyddyn ariannol. Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i batrymau atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau golwg gwan ar draws gwahanol ardaloedd a thros amser.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data yn seiliedig ar hawliadau a wneir gan bractisau i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am daliad. Mae practisau yn cyflwyno cerdyn cofnod i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac mae'r data hyn yn cynhyrchu'r taliad o'r system. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu set ddata gyfanredol gyda nifer yr atgyfeiriadau i Lywodraeth Cymru. Defnyddir y data i gyfrifo cyfanswm nifer yr atgyfeiriadau i wasanaethau golwg gwan, a chan y gwasanaethau hynny, wedi'u grwpio yn ôl ffynhonnell atgyfeirio neu gyrchfan, a blwyddyn ariannol. Ar gyfer atgyfeiriadau i wasanaethau, mae cyflogaeth, addysg, cofrestru a ffynonellau eraill yn cael eu cyfuno mewn un categori, sef "ffynonellau eraill".
- Ansawdd ystadegol
Efallai na fydd nifer yr atgyfeiriadau cleifion newydd i wasanaethau golwg gwan bob amser yn gyson â nifer gwirioneddol yr asesiadau cleifion newydd.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru