Bwydo ar y fron adeg geni yn ôl bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol, Ionawr 2004 i Fawrth 2019

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
31 o 31 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws bwydo ar y fron
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2004 i Rhagfyr 2019

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nifer y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni yn ôl y bwrdd iechyd lleol a’r awdurdod lleol.

Mae'r ystadegau hyn yn deillio o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol lle cymerir y data o ran bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac ar gyfer babanod sy’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed ac maent yn cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron. Darperir y data hyn i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Sefydlwyd NCCHD yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer pob plentyn a gafodd ei eni, a fu’n preswylio neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ac a gafodd ei eni ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o adeg ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n preswylio neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru.

Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, yn 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni.

Ansawdd ystadegol

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd wneud newidiadau i ddata ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer yr ystadegau yn y datganiad hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt penodol mewn amser, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Mae data bwydo ar y fron ar bob pwynt mewn amser yn destun materion o ran ansawdd y data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn. Nid oes gan bob cofnod yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron. Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd.

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Newidiodd enwau’r byrddau iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn. Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad Ansawdd.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru