Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad, disgrifiad o’r trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod amser
135 o 135 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math y trafodiad
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad y trafodiad
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:30 Ebrill 2026

Diweddariadau

20ain Mawrth 2026

Data newydd / diwygiedig

20ain Chwefror 2026

Data newydd / diwygiedig

29ain Ionawr 2026

Data misol newydd

19eg Rhagfyr 2025

Data misol newydd

21ain Tachwedd 2025
30ain Hydref 2025
29ain Medi 2025
29ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Awdurdod Cyllid Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni treth trafodiadau tir
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2018 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysiad TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn cau'r trydydd ddydd Llun o fis y cyhoeddiad.

Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad yn ôl:

  • math o drafodiad: preswyl (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a chyfradd uwch), amhreswyl
  • disgrifiad o’r trafodiad: trawsgludiad / trosglwyddo perchenogaeth, caniatáu les newydd, aseinio les
  • mesur: nifer y trafodiadau, treth sy'n ddyledus, gwerth yr eiddo a drethwyd
  • dyddiad y daw i rym (mis, chwarter a blwyddyn ariannol). Pan fydd rhan o chwarteri a blynyddoedd yn cael ei dangos, caiff y rhain eu nodi gyda'r ôl-ddodiad "hyd yn hyn".

Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw fanylion heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Felly, mae trafodiadau hyn wedi'u hepgor o bob dadansoddiadau a chânt eu crynhoi yma yn y set data "Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy'n ddyledus, gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig (er mwyn sicrhau cyfrinachedd)".

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r dychweliadau Treth Trafodiadau Tir unigol a gyflwynwyd i'r Awdurdod gan drethdalwyr, sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.

Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidwyd y prif gyfraddau a bandiau preswyl o 10 Hydref 2022.

Newidwyd y gyfraddau uwch preswyl ar gyfer pob bandiau o 11 Rhagfyr 2024.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir

Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth

Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir

Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir

Newidiadau i gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Awdurdod Cyllid Cymru
E-bost cysylltu
data@acc.llyw.cymru