Nifer y staff practis ehangach a gyflogir mewn practisau cyffredinol (cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn), yn ôl categori staff ac ardal

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Staff
43 o 43 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
75 o 75 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026

Diweddariadau

30ain Ebrill 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Medi 2025

Hysbyswyd Llywodraeth Cymru am y newidiadau i’r clystyrau ar ôl i'r newidiadau ddigwydd. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud ag uno'r clystyrau canlynol:

• Gogledd Rhondda a De Rhondda yn uno fel Rhondda; • Gogledd Merthyr Tudful a De Merthyr Tudful yn uno fel Merthyr Tudful; • Gogledd Taf Elái a De Taf Elái yn uno fel Taf Elái

Nid yw'r union ddyddiadau y daeth y newidiadau hyn i rym yn hysbys; fodd bynnag, cadarnhawyd eu bod wedi bod yn eu lle ers o leiaf 1 Ebrill 2023. Felly, mae'r uno hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y data o Mehefin 2023 ymlaen.

16eg Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 1
System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol
Darparwr data 2
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 2
System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru (WNWRS)
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2020 i Medi 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae hyn yn dangos nifer y (cyfrif pennau) a chyfwerth ag amser llawn staff eraill a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl chategori staff a’r bwrdd iechyd lleol, ar ddyddiad pob cipolwg chwarterol.

Staff eraill y practisau: Yn cynnwys yr holl nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol. Mae'r tri grwp hyn yn cynnwys yr holl staff 'nad ydynt yn feddygon teulu' mewn practis cyffredinol.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ffigurau ar gyfer cyfrif pennau yn gyfrifiadau unigryw. Felly mae unigolyn sy’n cael ei gyflogi nifer o weithiau mewn un bwrdd iechyd lleol neu chategori staff yn cael ei gyfrif unwaith yn unig (ond os bydd unigolyn hefyd yn cael ei gyflogi mewn bwrdd iechyd lleol neu chategori staff arall, bydd yn cael ei gyfrif unwaith ym mhob bwrdd neu chategori staff). Felly, ni ellir cyfrif ffigurau yn ôl bwrdd iechyd lleol na chategori staff.

Mae'r ffigurau ar gyfer CALl yn cyfrif tuag at y grwp staff a'r bwrdd iechyd y mae pob contract yn perthyn iddo. Felly bydd y ffigurau CALl ar gyfer pob bwrdd iechyd gyda’i gilydd yn cyfateb i ffigur Cymru a bydd swm y staff cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol yn cyfateb i’r swm CALl ar gyfer 'staff eraill y practisau’, yn amodol ar wahaniaethau talgrynnu bach.

O 30 Medi 2025 ymlaen, daw data gweithlu practisau cyffredinol o System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol (PCWIS), sy'n disodli System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) a fu'n ffynhonnell ddata ers 2020.

Yn gyffredinol, mae’r system yn gweithio drwy fod rheolwyr practisau’n bwydo manylion eu staff i mewn i’r system, gan gadarnhau’r manylion bob chwarter. Mae’r data wedyn yn cael eu tynnu ar ddiwrnod olaf bob chwarter (Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr). Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd yn cwblhau dilysiadau er mwyn gwella ansawdd y data cyn i’r data dienw gael eu rhannu gydag ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, i’w dilysu ymhellach a chynhyrchu’r ystadegau swyddogol hen.

Newidiadau i glwsterau: Hysbyswyd Llywodraeth Cymru am y newidiadau i’r clystyrau ar ôl i'r newidiadau ddigwydd. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud ag uno'r clystyrau canlynol: • Gogledd Rhondda a De Rhondda yn uno fel Rhondda • Gogledd Merthyr Tudful a De Merthyr Tudful yn uno fel Merthyr Tudful • Gogledd Taf Elái a De Taf Elái yn uno fel Taf Elái Nid yw'r union ddyddiadau y daeth y newidiadau hyn i rym yn hysbys; fodd bynnag, cadarnhawyd eu bod wedi bod yn eu lle ers o leiaf 1 Ebrill 2023. Felly, mae'r uno hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y data o Mehefin 2023 ymlaen.

Newidiodd clwstwr Dwyfor a Gogledd Meirionnydd ar 1 Ebrill 2021 wrth I rai practisau symud I mewn o glwstwr De Meirionnydd.

Newidiodd clwstwr De Meirionnydd ar 1 Ebrill 2021 wrth I rai practisau symud I glwstwr Dwyfor a Gogledd Meirionnydd.

Ansawdd ystadegol

Mae data CALI ar gael o 31 Rhagfyr 2021.

Data mis Mawrth 2020: March 2020 data: ni wnaeth 2 allan o’r 404 o bractisau gweithgar ddarparu data, neu ni wnaethant gadarnhau fod eu data yn y System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru yn gyfredol. Fe wnaeth y practisau hyn ddarparu data cychwynnol drwy daenlen Excel ar ddiwedd 2019, a defnyddiwyd y data hynny i roi manylion ymlaen llaw yn y System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru, cyn i’r system fynd yn fyw ar gyfer practisau. Felly, y data a ddarparwyd yn y daenlen gychwynnol yw’r data a ddefnyddiwyd ar gyfer y ddau bractis hyn. Nodwch fod y ddau bractis wedi adrodd nad oedd unrhyw ymarferwyr cyffredinol yn y practis, ond bod staff eraill yn gweithio yn y practisau hynny.

Data Mehefin 2020: Ni chadarnhaodd 46 o bractisau, o’r 402 o bractisau gweithredol sydd â staff, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2020 (Fe wnaethant gadarnhau hynny ddiwethaf rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020). Ni wnaeth 50 o bractisau ychwanegol addasu eu data yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2020 (er iddynt edrych ar ddata yn y chwarter hwnnw). Fe wnaeth 3 o bractisau ddiweddaru eu data yn fuan ar ôl dyddiad y cipolwg (ar 2 Gorffennaf).

Data Medi 2020: Ni chadarnhaodd 6 o bractisau, o’r 399 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2020 (Fe wnaethant gadarnhau hynny ddiwethaf rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020).

Data Rhagfyr 2020: Ni chadarnhaodd 36 o bractisau, o’r 396 o bractisau gweithredol sydd â staff, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2020.

Data Mawrth 2021: Ni chadarnhaodd 9 o bractisau, o’r 396 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mawrth 2021.

Data Mehefin 2021: Cadarnhaodd yr holl bractisau gweithredol fod eu data'n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2021.

Data Medi 2021: Ni chadarnhaodd 11 o bractisau, o’r 391 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2021.

Data Rhagfyr 2021: Ni chadarnhaodd 30 o bractisau, o’r 390 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2021.

Data Mawrth 2022: Ni chadarnhaodd 6 o bractisau, o’r 388 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mawrth 2022.

Data Mehefin 2022: Ni chadarnhaodd 11 o bractisau, o’r 386 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2022.

Data Medi 2022: Ni chadarnhaodd 16 o bractisau, o’r 386 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2022.

Data Rhagfyr 2022: Ni chadarnhaodd 10 o bractisau, o’r 383 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2022.

Data Mehefin 2023: Ni chadarnhaodd 20 o bractisau, o’r 379 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2023.

Data Medi 2023: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 378 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2023.

Data Rhagfyr 2023: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 374 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2023.

Data Mehefin 2024: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 372 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2024.

Data Medi 2024: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 371 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2024.

Data Rhagfyr 2024: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 370 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2024.

Data Mawrth 2025: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 370 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mawrth 2025.

Data Mehefin 2025: Ni chadarnhaodd 0 o bractisau, o’r 370 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Mehefin 2025.

Data Medi 2025: Ni chadarnhaodd 2 o bractisau, o’r 368 o bractisau gweithredol, fod eu data’n gyfredol yn y chwarter hyd at fis Medi 2025.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru