Amcangyfrif o nifer yr apwyntiadau mewn practisau cyffredinol yn ôl statws yr apwyntiad, ardal a mis
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026
Diweddariadau
- 26ain Mawrth 2026
Data newydd wedi'i ychwanegu
- 16eg Rhagfyr 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol
- Cyfnod amser dan sylw
- Hydref 2021 i Mawrth 2026
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae hyn yn dangos y nifer amcangyfrifedig misol o apwyntiadau yn ôl statws apwyntiad (apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol neu lle nad oedd y claf yn bresennol), mesur (nifer yr apwyntiadau neu nifer cyfartalog yr apwyntiadau fesul diwrnod gwaith) ac ardal (bwrdd iechyd a chlwstwr).
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r term ‘apwyntiad’ yn cyfeirio at yr holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion a gofnodir yn llyfr apwyntiadau practis cyffredinol. Bydd mwyafrif helaeth y gweithgareddau a gofnodir yn apwyntiadau traddodiadol lle mae claf yn cael ymgynghoriad â meddyg teulu, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Bydd y term hefyd yn cwmpasu rhai gweithgareddau eraill y mae staff yn eu cyflawni ar gyfer cleifion, ond heb gynnal ymgynghoriad (fel adolygiad o feddyginiaethau) os byddant wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion nad ydynt wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau.
- Ansawdd ystadegol
Mae rhaglen ar y gweill i gyflwyno un system apwyntiadau i bob practis yng Nghymru, y bwriedir ei chwblhau erbyn haf 2026. Mae hyn yn golygu bod rhai practisau wedi trosglwyddo systemau o amgylch dyddiadau cyfeirio’r data, a allai arwain at faterion ychwanegol o ran ansawdd y data. Pan nodir bod materion o ran ansawdd y data, maent yn cael eu rhannu ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n gweithio gyda’r byrddau iechyd a’r practisau i wella ansawdd y data. Mae'r ystadegau ar gyfer y chwarter mwyaf diweddar yn seiliedig ar y data fel y'u cofnodwyd i gychwyn. Mae data anghywir fel arfer yn cael eu golygu yn y data ffynhonnell ar ôl eu cyhoeddi ac adolygir yr ystadegau wedi hynny yn y cyhoeddiad ar gyfer y chwarter dilynol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru